Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Systemau Casglu Dŵr Glaw ac Ailgylchu Dŵr Llwyd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 ddiwrnod

Disgrifiad o'r Cwrs

Dyluniwyd y cwrs hwn ar gyfer peirianwyr a phlymwyr BSE profiadol a/neu gymwys sy'n dymuno rhagnodi, gosod a chynnal a chadw systemau Casglu Dŵr Glaw ac Ailgylchu Dŵr Llwyd.

Bydd y cwrs yn sicrhau fod gan unigolion y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud y math hwn o waith.

Ffi: £200

Gofynion mynediad

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol

Mae'r cwrs yn addas i beirianwyr a phlymwyr BSE profiadol a/neu gymwys sy'n dymuno rhagnodi, gosod a chynnal a chadw systemau Casglu Dŵr Glaw ac Ailgylchu Dŵr Llwyd.

Cyflwyniad

  • hyfforddiant damcaniaethol
  • Ymarferion ymarferol

Asesiad

Dyluniwyd yr asesiadau i sicrhau fod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn deg ar hyd a lled y wlad.

Mae'r dull hwn yn sicrhau y gall cyflogwyr a chwsmeriaid fod yn hyderus y bydd gweithiwr sydd wedi'i asesu mewn canolfan asesu wedi'i chymeradwyo gan BPEC Ltd yn gallu gweithio'n ddiogel ac yn ddigonol.

Dilyniant

Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'