Systemau Dŵr Poeth Solar i Wresogi Tai
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 diwrnod
Systemau Dŵr Poeth Solar i Wresogi TaiCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Byddwch yn magu'r hyder i ddewis, gosod a chynnal a chadw systemau domestig dŵr poeth solar.
£690
Gofynion mynediad
NVQ Lefel 2 Plymwaith neu Wresogi ac Awyru (domestig) neu gyfatebol neu
Tystysgrif cymhwysedd gosod systemau dŵr poeth heb eu hawyrellu neu
Cymhwyster Rheoliadau Dŵr wedi'i gymeradwyo gan y Cynllun Cymeradwyo Rheoliadau Dŵr (WRAS) neu
Cymhwyster Effeithlonrwydd Ynni a gyhoeddwyd gan gorff achrededig 17024 UKAS neu
Cymhwyster Iechyd a Diogelwch wedi'i achredu'n annibynnol sy'n cwmpasu cymwysterau Gweithio ar Uchder, Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH) a Chodi a Chario
Cyflwyniad
Drwy gyfrwng 8 modiwl a phrofiad ymarferol ar rigiau dan do pwrpasol gallwch ddysgu theori a meithrin sgiliau gyda hyfforddwr cymwysedig.
Ar ôl cwblhau'r asesiad yn llwyddiannus, a chan ddibynnu ar eich profiad, byddwch yn derbyn 'Tystysgrif Gosod' neu 'Dystysgrif Ymwybyddiaeth' y BPEC yn Llandrillo-yn-Rhos a NICEIC yn Llangefni.
Asesiad
Cynlluniwyd yr asesiadau mewn modd sy'n sicrhau bod pob ymgeisydd drwy'r wlad yn cael ei drin yn deg a chyfartal.Mae hyn yn sicrhau bod cyflogwyr a chwsmeriaid yn gallu bod yn hyderus bod gweithwyr a aseswyd mewn canolfan asesu a gymeradwywyd gan BPEC Ltd/NICEIC yn gymwys i weithio'n ddiogel.
Dilyniant
- Gallech symud ymlaen i nifer o gyrsiau gwahanol yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- CIST Llangefni
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig