Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    5 diwrnod dros 10 wythnos. 1 dydd pob pythefnos gan gyfarfod ar-lein gyda eich tiwtor a'ch cyd-ddysgwyr.

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Disgrifiad o'r Cwrs

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn ar gyfer rheolwyr prosiect, penaethiaid adran a rheolwyr canol eraill. Mae'r Dyfarniad Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli'n addas i rai sy'n gweithio fel rheolwyr canol ar hyn o bryd. Bydd yn eu helpu i feithrin eu sgiliau, i fagu profiad ac i wella eu perfformiad, ac yn eu paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau uwch reolwyr.

O'ch safbwynt chi, manteision dilyn y cwrs hwn yw:

  • Defnyddio technegau rheoli craidd i gael canlyniadau gwell
  • Datblygu eich gallu i arwain, i gymell ac i ysbrydoli
  • Arwain yn strategol yn ogystal â rheoli o ddydd i ddydd
  • Meincnodi eich sgiliau rheoli
  • Codi eich proffil yn eich sefydliad.

O safbwynt eich cyflogwr, manteision dilyn y cwrs hwn yw:

  • Rheolwyr ac arweinwyr effeithiol a hyderus
  • Annog unigolion i feddwl yn strategol ar y lefel hon yn arwain at welliant yn y busnes
  • Hyfforddi a datblygu rheolwyr canol - dyluniwyd y cymwysterau hyn i gynnig manteision clir y gellir eu mesur i bobl broffesiynol

Canlyniadau mesuradwy: mae'r asesu yn y gweithle'n sicrhau y caiff y sgiliau newydd eu trosglwyddo'n effeithiol i'ch busnes


Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd y rhai a fydd yn dilyn y rhaglen yn:

  • Gweithio fel rheolwyr prosiect, penaethiaid adran a rheolwyr canol eraill Mae'r Diploma Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli'n addas i rai sy'n gweithio fel rheolwyr canol ar hyn o bryd. Bydd yn eu helpu i feithrin eu sgiliau, i fagu profiad ac i wella eu perfformiad, ac yn eu paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau uwch reolwyr.
  • Meddu ar Sgiliau Sylfaenol, Llythrennedd a Rhifedd digonol er mwyn gallu elwa i'r eithaf o'r rhaglen
  • Cael cefnogaeth eu cyflogwyr, gyda neu heb nawdd
  • Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs ar-lein, mae wedi ei arwain gan diwtor drwy gyfuniad o sesiynau wedi eu hamserlennu yn cynnwys y canlynol:

  • Pecyn cyflwyno ar-lein*
  • Gweminarau (sesiynau addysgu proffesiynol wedi eu harwain gan diwtor ar-lein)
  • Setiau dysgu gweithredol (grŵp ac unigolyn).
  • Trafodaethau proffesiynol
  • Astudiaethau achos
  • Cwisiau
  • Cyflwyniadau
  • Astudio personol dan gyfarwyddyd
  • Sesiynau Tiwtorial personol 1-2-1

* Bydd y pecyn cyflwyno ar-lein yn eich ymgyfarwyddo yn llwyr gyda'r holl offer a sut i gael mynediad iddynt. Byddwch yn derbyn hyn unwaith rydych wedi eich cofrestru ar y cwrs cyn i chi ddechrau'r sesiynau a addysgir mewn gwirionedd. Cewch hefyd ddefnyddio cyfleusterau amgylchedd ddysgu rhith-wirionedd lle y ceir eich holl adnoddau dysgu, a fydd yn eich cefnogi'n llawn drwy gydol eich astudiaethau

** Dylid nodi fod gliniadur/cyfrifiadur, meicroffon, camera a mynediad i'r rhyngrwyd yn ofynnol ar gyfer y rhaglen hon. Nid yw ffonau symudol a PDA's yn addas ac ni fyddant yn darparu profiad dysgu da.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau seiliedig ar waith
  • Cyflwyniadau llafar
  • Adolygiadau adfyfyriol

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch fynd ymlaen i ddilyn cwrs pellach neu i wneud cynnydd yn eich gwaith. Byddwch yn datblygu'ch arferion proffesiynol ac mae'n bosib y gallwch anelu at gael dyrchafiad yn rheolwr canol.

Yn addysgol, y cam rhesymegol nesaf fyddai cwblhau Tystysgrif a Diploma Lefel 5 yr ILM mewn Arwain a Rheoli.

Fel arall bydd y Dyfarniad, Tystysgrif a Diploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora yn cynnig setiau sgiliau sy'n ychwanegu gwerth ar gyfer darpar arweinwyr.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth