Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell
- Math o gwrs:Proffesiynol
- Dull astudio:Rhan amser
- Lefel:N/A
- Maes rhaglen:Cyfrif Dysgu Personol
Iechyd a Diogelwch - Hyd:
13 diwrnod dros 13 wythnos
- Dwyieithog:n/a
Disgrifiad o'r Cwrs
Yn berthnasol i bob gweithle, mae'r Dystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol yn ddelfrydol ar gyfer rheolwyr, arolygwyr ac unrhyw un sydd â chyfrifoldebau ym maes rheolaeth iechyd a diogelwch. Mae hefyd yn berffaith ar gyfer y rhai sy'n cychwyn ar yrfa ym maes iechyd a diogelwch ac yn rhoi carreg llamu i chi i lwyddiant.
Gyda phwyslais mewn-dyfnder ar y pethau sy'n cyfrif, mae'r Dystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol yn cynnwys:
- Sut i reoli iechyd a diogelwch yn effeithiol
- Sut i adnabod a rheoli peryglon gweithle cyffredin
- Sut i fesur a fuoch yn llwyddiannus
- Gofynion cyfreithiol allweddol y DU
Drwy astudio a defnyddio eu gwybodaeth yn y gweithle, bydd y dysgwyr llwyddiannus yn gallu:
- Cynnal asesiadau risg yn hyderus
- Datblygu a rhoi cynllun gweithredu manwl ar waith
- Rheoli a lleihau risgiau yn y gweithle
- Cefnogi a datblygu diwylliant iechyd a diogelwch eich cwmni
Dyddiadau Cwrs
Dysgu o Bell
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
06/09/2022 | 09:00 | Dydd Mawrth | 7.00 | 13 | £1,350 | 0 / 10 | D0013075 |
Gofynion mynediad
Nid oes rhagofynion ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, argymhellir bod gan ddysgwyr safon addas o iaith Saesneg er mwyn medru deall ac ynganu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng sesiynau addysgu a gwaith grŵp.
Asesiad
Bydd yr asesiad yn broses dau gam:
- NG1 – Arholiad llyfr agored er mwyn asesu'r hyn yr ydych chi'n ei wybod. Mae hwn yn seiliedig ar senarios a bydd yn cynnwys cyfweliad ar y diwedd; bydd gofyn i chi ateb cwestiynau ynglŷn â'ch cyflwyniad.
- NG2 – Asesiad risg ymarferol er mwyn asesu beth y gallwch ei wneud (3 awr). Bydd dysgwyr yn cwblhau asesiad risg ac yn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer eu gweithle – bydd hwn yn ddefnyddiol ac yn werthfawr yn syth.
Dilyniant
Diploma NEBOSH
A hoffech chi wneud cais am y cwrs hwn?


Mewn cydweithrediad â'r partner
dysgu achrededig: Delyn Safety UK
