Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif NEBOSH Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    13 diwrnod dros 13 wythnos

Gwnewch gais
×

Tystysgrif NEBOSH Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu

Proffesiynol

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae cwrs NEBOSH - Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladwaith (Prydain) yn canolbwyntio ar arferion gorau'r diwydiant o ran rheoli a defnyddio systemau rheoli diogelwch.

Mae'n addas i reolwyr, goruchwylwyr ac unrhyw un sy'n gweithio ym maes adeiladwaith. Mae'n ddelfrydol i unrhyw un sydd angen gwybodaeth eang am faterion iechyd a diogelwch ym maes adeiladwaith i allu rheoli risgiau'n effeithiol o ddydd i ddydd.

Wedi cwblhau'r cwrs NEBOSH - Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladwaith (Prydain) bydd gennych y wybodaeth a'r sgiliau i:

  • Gyfiawnhau'r angen am welliannau o ran iechyd a diogelwch yn defnyddio dadleuon moesol ac ariannol
  • Cynghori ar ddyletswyddau a rheoli risgiau ym maes adeiladwaith dan Reoliadau Adeiladwaith (Cynllunio a Rheoli) 2015
  • Hyrwyddo ymddygiad a diwylliant cadarnhaol o ran iechyd a diogelwch i wella perfformiad mewn sefydliadau
  • Cydnabod unrhyw newidiadau yn y gweithle sy'n gysylltiedig ag effeithiau iechyd a diogelwch arwyddocaol a chanfod ffurf effeithiol i leihau'r effeithiau hynny
  • Datblygu systemau gwaith diogel (yn cynnwys ystyried argyfyngau nodweddiadol) a gwybod pryd i ddefnyddio systemau trwyddedu gwaith yn achos risgiau arbennig
  • Cymryd rhan mewn ymchwiliadau i ddigwyddiad
  • Cynnal asesiad risg ar safleoedd adeiladu a rheoli amrywiaeth o beryglon cyffredin, gwerthuso risgiau (ystyried trefniadau cyfredol), argymell mesurau rheoli pellach a chynllunio camau gweithredu.
  • Llunio neu gyfrannu at gynllun camau adeiladu
  • Helpu i reoli contractwyr

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno o bell gan diwtor mewn dosbarth ar-lein rhithwir a bydd gofyn i'r sawl sy'n cymryd rhan ddefnyddio cyfrifiadur, gliniadur neu dabled priodol gyda chamera, seinydd a chysylltiad gwe cryf i allu gweithio ar y cwrs ar-lein.

Dyddiadau Cwrs

Dysgu o Bell

Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni am wybodaeth bellach.

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
03/07/202416:00 Dydd Mercher91.0013 £1,4750 / 8D0018787

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, mae'r dystysgrif NEBOSH hwn yn gymhwyster Lefel 3 sydd gyfwerth â Lefel A neu gymhwyster tebyg mewn colegau ym Mhrydain. Golyga hyn bod y cymhwyster yn un trwm i'w astudio a rhaid i'r dysgwyr fod yn barod i astudio ar y lefel hon.

Rhaid bod gan ddysgwyr safon addas o iaith Saesneg er mwyn medru deall ac ynganu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno o bell gan diwtor mewn dosbarth ar-lein rhithwir a bydd gofyn i'r sawl sy'n cymryd rhan ddefnyddio cyfrifiadur, gliniadur neu dabled priodol gyda chamera, seinydd a chysylltiad gwe cryf i allu gweithio ar y cwrs ar-lein.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng sesiynau addysgu a gwaith grŵp.

Asesiad

Mae'r asesiad yn arholiad gyda llyfrau agored a fydd yn seiliedig ar senario realistig a fydd yn profi yr hyn rydych chi'n ei wybod a'r hyn allwch chi ei wneud. Bydd gofyn i chi wneud cyfres o dasgau yn defnyddio'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn y senario yn ogystal â'r wybodaeth rydych chi wedi'i ddysgu wrth astudio ac adolygu. Bydd gennych 48 awr i lawrlwytho, cwblhau a chyflwyno eich asesiad.

Bydd eich asesiad yn cael ei farcio gan arholwyr allanol a benodir gan NEBOSH. Caiff yr arholwyr hyn eu dewis am eu profiad a'u harbenigedd i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu hasesu gan swyddogion gorau yn ein diwydiant.

Dilyniant

Diploma NEBOSH

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Iechyd a Diogelwch

Dwyieithog:

n/a

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur

Mewn cydweithrediad â'r partner
dysgu achrededig: Delyn Safety UK