Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 2 ILM mewn Sgiliau Arwain a Gweithio mewn Tîm (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    6 sesiynau

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Lefel 2 ILM mewn Sgiliau Arwain a Gweithio mewn Tîm (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Arwain a Gweithio mewn Tîm yn ddelfrydol i unigolion sy'n awyddus i ddechrau eu gyrfa ym maes arweinyddiaeth a rheolaeth drwy gael cymhwyster a gydnabyddir ledled y DU.

Mae'n ddelfrydol ar gyfer arweinwyr tîm presennol, gan y bydd yn eu helpu i ddod yn fwy effeithiol a hyderus yn eu rôl. Mae i'r dim hefyd ar gyfer arweinwyr tîm newydd neu ddarpar arweinwyr tîm – gan eu helpu i bontio o weithio mewn tîm i arwain tîm. Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i'ch helpu i wella eich perfformiad fel aelod o dîm. Os ydych eisoes yn arweinydd tîm, bydd yn eich helpu i fod yn fwy effeithiol a hyderus yn eich rôl.

Manteision i unigolion

  • Dysgu sgiliau arwain a rheoli craidd
  • Rhoi'r sgiliau hyn ar waith yn eich gweithle
  • Gwella perfformiad eich tîm
  • Ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Y manteision i gyflogwyr

  • Arweinwyr tîm brwdfrydig a chymwys
  • Gwella cynhyrchiant

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd y rhai a fydd yn dilyn y rhaglen yn:

  • Gweithio fel Arweinydd Tîm neu'n awyddus i fod yn Arweinydd Tîm
  • Meddu ar Sgiliau Sylfaenol, Llythrennedd a Rhifedd digonol er mwyn gallu elwa i'r eithaf ar y rhaglen
  • Cael cefnogaeth eu cyflogwyr, gyda neu heb nawdd
  • Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cynhelir y cyrsiau ar ddiwrnod penodedig bob wythnos, gyda dosbarthiadau'n cael eu cynnal rhwng tua 9.30 a 2.30 pm.

Cyflwynir y cwrs ar-lein gan ddefnyddio llwyfannau Google Meet neu Zoom. Caiff ei arwain gan diwtor drwy gyfuniad o sesiynau wedi eu hamserlennu yn cynnwys y canlynol:

  • Gwersi Ar-lein
  • Setiau dysgu gweithredol (grŵp ac unigol)
  • Trafodaethau proffesiynol
  • Astudiaethau achos
  • Cwisiau
  • Cyflwyniadau
  • Hunanasesu
  • Astudio personol dan gyfarwyddyd
  • Sesiynau Tiwtorial personol 1-2-1

Bydd gennych hefyd fynediad at amgylchedd dysgu rhithwir (Moodle) lle y ceir yr holl adnoddau dysgu a fydd yn rhoi cefnogaeth lawn i chi drwy gydol eich astudiaethau.

** Dylid nodi bod gliniadur/cyfrifiadur, meicroffon, camera a mynediad i'r rhyngrwyd yn ofynnol ar gyfer y rhaglen hon. Nid yw ffonau symudol a PDA's yn addas ac ni fyddant yn darparu profiad dysgu da.

Asesiad

Ar ddiwedd y cwrs, bydd eich tiwtor cwrs yn cael trafodaeth gyda chi am y camau nesaf priodol, sy’n cynnwys:

Deall newid yn y gweithle - Aseiniad seiliedig ar waith

Dulliau cyfathrebu yn y gweithle - Llyfryn Cwestiwn ac Ateb

Dilyniant

Ar ddiwedd y cwrs, bydd eich tiwtor cwrs yn cael trafodaeth gyda chi am y camau priodol nesaf, gan gynnwys:

  • Tystysgrif Lefel 2 ILM mewn Sgiliau Arwain a Gweithio mewn Tîm
  • Dyfarniad Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli
  • Dyfarniad Lefel 3 ILM mewn Mentora
  • Dyfarniad Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth