Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

System Storio Ynni Trydanol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 Diwrnod

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn ymdrin â gosod systemau storio ynni trydanol yn unol â Chod Ymarfer Systemau Storio Ynni Trydanol y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (Institution of Engineering and Technology - IET).

This qualification is aimed at practising electricians, electrical technicians and engineers with experience of electrical installations, and associated inspection and testing.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn:

  • Gwybod y gofynion allweddol ar gyfer gosod systemau storio ynni trydanol
  • Adnabod a gwybod am offer, trefniadau a dulliau gweithredu systemau storio ynni trydanol
  • Deall sut i baratoi dyluniad a chynllunio gosod systemau storio ynni trydanol
  • Medru paratoi ar gyfer gosod systemau storio ynni trydanol
  • Medru gosod systemau storio ynni trydanol
  • Deall y gofynion allweddol ar gyfer dilysu dechreuol a throsglwyddo systemau storio ynni trydanol
  • Medru cwblhau'r dilysu dechreuol a throsglwyddo systemau storio ynni trydanol

Dyddiadau Cwrs

CIST-Llangefni

Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
30/12/202308:30 Hyblyg14.001 £4500 / 6D0018196

Ty Gwyrddfai

Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
19/10/202308:30 Dydd Iau, Dydd Gwener14.001 £4500 / 6D0018396

Gofynion mynediad

1. ⁠GOFYNNOL dyfarniad Rheoliadau Weirio yr IET 18fed Argraffiad (e.e. C&G cyfres 2380 neu EAL 603/3298/0) a

2. GOFYNNOL NVQ L3

Byddwn yn gofyn i chi anfon copiau o'ch tystysgrifau i CIST trwy e-bost.

Cyflwyniad

Bydd y cwrs yn darparu gwybodaeth theori ac ymarferol a fydd yn eich galluogi chi i gymhwyso'r rheoliadau a chanllawiau perthnasol wrth ymwneud â systemau batris storio ynni trydanol.

Asesiad

Theori/Ymarferol

Dilyniant

Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.



Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

Na

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig