Y Cyhoedd
Mae llawer o'n cyfleusterau'n agored i'r cyhoedd ac mae'r rhain yn cynnwys y canolfannau chwaraeon a'r campfeydd, y bwytai a'r salonau gwallt a harddwch.

Bwytai
Yn ein ceginau a'n bwytai hyfforddi rhagorol, ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n galluogi myfyrwyr ar bob lefel i loywi eu sgiliau technegol a phersonol. Wedyn, gallant symud ymlaen i weithio yn unrhyw un o feysydd y diwydiant Lletygarwch.

Salonau Gwallt a Harddwch
Mae gennym salonau gwallt a harddwch ar hyd a lled y Gogledd Orllewin - ym Mangor, yn Nolgellau, yn Llandrillo-yn-Rhos ac yn Y Rhyl. Yn y salonau hyfforddi hyn, cynigir triniaethau trin gwallt, triniaethau harddwch a therapi cyfannol o safon uchel a phroffesiynol.

Cyfleusterau Cynadledda
Os ydych yn bwriadu cynnal digwyddiad neu'n chwilio am leoliad unigryw ar gyfer cyfarfod busnes ym Môn neu Gonwy, Gogledd Cymru, fe all un o'n hystafelloedd cynadledda ateb eich gofynion i'r dim.

Cyfleusterau Chwaraeon
Ar ein campws yn Llandrillo-yn-Rhos mae gennym ganolfan chwaraeon, campfa a chae pêl-droed 3G sydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio.