Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

NPORS Rholiwr Ffyrdd (N214)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 diwrnod

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw rhoi i ymgeiswyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithredu Rholiwr Reidio. Mae’n addas i weithredwyr o bob gallu a'r rhai nad sydd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant neu gyfarwyddyd ffurfiol blaenorol.

Ar ddiwedd y cwrs dylai'r holl ddysgwyr fedru:

  • Deall y diwydiant, y peryglon o fewn y diwydiant a'u cyfrifoldebau fel gweithredydd offer.
  • Bod a dealltwriaeth o'r llawlyfr gweithgynhyrchu ar gyfer yr offer a ddefnyddiwyd.
  • Lleoli a dynodi prif elfennau'r peiriant ac egluro eu swyddogaethau.
  • Lleoli a dynodi rheolyddion allweddol y peiriant ac egluro eu swyddogaethau.
  • Cynnal yr holl wiriadau cyn-weithredol, yn unol gyda gofynion gweithgynhyrchu a hefyd gofynion deddfwriaethol.
  • Dynodi a chynnal yr holl Gyfarpar Diogelu Personol priodol.
  • Paratoi a gweithredu'r rholiwr yn ddiogel ac yn effeithiol
  • Cynnal gwiriadau diogelwch yn yr ardal waith.
  • Yn wybodus am ystyriaethau amgylcheddol.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o weithdrefnau llwytho a dadlwytho ar gyfer cludo peiriannau yn ddiogel.
  • Cyflawni pob gweithdrefn diwedd shifft a chau i lawr.

Gofynion mynediad

Holl ddysgwyr

  • Prawf sgrin gyffwrdd Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd CITB cyfredol
  • Dealltwriaeth dda o'r Gymraeg a/neu Saesneg yn ofynnol.

Dysgwyr Newydd

  • Nid oes rhaid cael profiad blaenorol.

Profiadol/ Gloywi

  • Un ai 18 mis o brofiad gwaith profadwy a/neu 6 mis o brofiad dyddiol cyson yn y categori hwn.

Cyflwyniad

Dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu ac ymarferion ymarferol yn y dosbarth

Asesiad

2 ddiwrnod yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu yn y dosbarth a gwaith ymarferol

Asesiad 1 diwrnod - profion technegol NPORS

Dilyniant

Wedi cwblhau'r cwrs hwn, bydd y dysgwr yn derbyn Cerdyn Gweithredwr Wedi ei Hyfforddi Coch NPORS / CSCS.

Bydd hyn yn ddilys am 2 flynedd a bydd yn ofynnol i ddysgwyr i gofrestru am NVQ perthnasol.

Ar ôl cwblhau’r NVQ yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn derbyn y cerdyn Gweithredwr Medrus Glas. Mae hyn yn ddilys am 5 mlynedd Dosberthir llyfr log / cofnod DPP gweithredwr hefyd a ellir ei ddefnyddio i gefnogi hyfforddiant gloywi a hyfforddiant i'r profiadol.

Cynghorir gwneud hyfforddiant gloywi pob 3 blynedd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'