Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwerthoedd craidd. Mae sicrhau fod hawliau dynol pob dysgwr ac aelod staff yn cael ei barchu yn flaenoriaeth gennym.
Ein Gwerthoedd
Disgwylir i holl ddysgwyr ac aelodau staff y Grŵp barchu ein siarter cydraddoldeb gan sicrhau ein bod yn adnabod a dathlu'r amrywiaeth sydd gennym a herio unrhyw ragfarnau, fwlio neu aflonyddu.
Ein Ymrwymiad
Dysgwyr
- Sicrhawn fod ein holl ddysgwyr yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth dysgu o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion, galluoedd a dyheadau'r dysgwyr.
- Ymdrechwn i ddileu pob rhwystr all atal dysgwyr rhag cymryd rhan yn ein rhaglenni dysgu.
- Rydym yn adnabod anghenion dysgwyr sydd angen cefnogaeth ychwanegol a sefydlu ymyriadau priodol er mwyn diwallu anghenion yn effeithiol.
- Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag ystod o grwpiau cymunedol a phartneriaethau er mwyn cynyddu cyfranogiad gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Byddwn yn sicrhau ein bod yn cynnal data cywir a hygyrch sy'n ein darparu gyda phroffil eglur o'n cohortau dysgwyr.
- Byddwn yn adrodd yn flynyddol ar gyfansoddiad ein grwpiau dysgwyr a'u perfformiad cymharol.
- Byddwn yn hyrwyddo prosiectau ac ymgyr choedd er mwyn herio stereoteipiau mewn ardaloedd ble gwelir anghydbwysedd.
- Rydym yn sicrhau fod gan ein dysgwyr mecanweithiau cyson ac effeithiol er mwyn rhannu barn ar faterion cydraddoldeb.
- Rydym yn annog ein dysgwyr i fod yn rhan o'r drafodaeth ar faterion cydraddoldeb drwy baneli dysgwyr a fforymau eraill.
- Rydym wedi ymrwymo i ymateb i faterion sy'n codi gan ddysgwyr ac i gyfathrebu unrhyw weithredoedd fel canlyniad i'r mater.
Staff
- Ymdrechwn i sicrhau ein bod yn cyflogi staff sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a bod amrywiaeth yn cael ei gynrychioli ar bob lefel o'r sefydliad.
- Ymdrechwn i sicrhau fod ein polisïau a gweithdrefnau staff yn effeithiol wrth ddileu unrhyw aflonyddu neu wahaniaethu ar ran ein gweithlu.
- Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod ein holl staff yn derbyn hyfforddiant addas mewn materion cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Diwylliant
- "Tegwch" yw un o Werthoedd Allweddol y Grwp fel y gwelir yn ein Cynllun Strategol.
- Mae gennym safonau uchel o safbwynt ymddygiad a disgwylir i bob dysgwr, staff, ymwelydd a chleient gael eu trin ag urddas a chwrteisi.
- Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod staff a myfyrwyr yn trin ei gilydd gyda pharch fel sy'n cael ei nodi yn ein "Gwerthoedd".
- Ni wnawn oddef unrhyw fath o fwlio neu wahaniaethu ar ran y staff neu ddysgwyr, yn enwedig y rheiny o grwpiau gwarchodedig.
- Rydym yn annog dathlu amrywiaeth drwy ddigwyddiadau thematig cyson ar draws y Grwp.
- Gwnawn ein hymrwymiad i amrywiaeth yn eglur ym mhob un o'n cyhoeddiadau a deunyddiau electronig.
Cynllunio a Monitro
- Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn hysbysu ein prosesau cynllunio ar bob lefel.
- Cynhelir asesiadau effaith cydraddoldeb er mwyn sicrhau fod newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau yn cael effeithiau cadarnhaol ar bob grwp perthnasol.
- Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Grwp yn cael ei fonitro'n rheolaidd ac yn cael ei ddiweddaru er mwyn gweithredu gwelliannau sy'n adlewyrchu anghenion newidiol y sefydliad.
- Rydym wedi ymrwymo i wneud gwelliannau er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau teg a hygyrch i'n holl ddysgwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid.
- Mae Panel Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sy'n cynnwys trawstoriad o staff a myfyrwyr yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn monitro'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb.
- Mae Adroddiad blynyddol ar effeithiolrwydd y sefydliad wrth gyflawni amcanion cydraddoldeb yn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Llywodraethol ac yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Grwp.
Arweinyddiaeth
- Mae'r Swyddog Prif Weithredol a'r uwch reolwyr wedi ymrwymo'n llawn i gydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws pob grwp sydd wedi ei gategoreiddio gyda nodwedd warchodedig fel y nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
- Mae'r Corff Llywodraethol yn monitro atebolrwydd am sicrhau fod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei ymwreiddio'n llawn i bob agwedd o weithdrefnau'r Grwp.
Lawrlwytho ein Strategaeth a Chynllun Cydraddoldeb
Lawrlwytho ein Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb
Hyrwyddwr Amrywiaeth
Yn ystod dy amser yn y coleg, byddi di’n cael y cyfle i wirfoddoli fel Hyrwyddwr Amrywiaeth.
Nod y rôl yw hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr ddilyn llwybrau sydd â stereoteip rhyw iddyn nhw (er enghraifft, annog mwy o ferched i astudio adeiladu a pheirianneg a mwy o wrywod i astudio iechyd a gofal cymdeithasol a thrin gwallt a harddwch). Mae’n gyfle gwych i gyfarfod myfyrwyr eraill ac i ddatblygu dy sgiliau ar gyfer dy CV!
