Grŵp Llandrillo Menai a Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd yn llofnodi cytundeb nodedig i hybu sector twristiaeth a lletygarwch Gogledd Cymru
Mae Grŵp Llandrillo Menai a Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd, gan nodi dechrau partneriaeth strategol ar gyfer cryfhau'r economi lletygarwch a thwristiaeth yng ngogledd Cymru.
Mae'r cytundeb, a lofnodwyd ddydd Llun 23 Mehefin, yn amlinellu ymrwymiad y ddwy ochr i greu llwybrau i gyflogaeth drwy brentisiaethau, dysgu seiliedig ar waith, a mentrau ymgysylltu cymunedol.
Bydd y bartneriaeth yn cefnogi nod y Rhwydwaith Talent Twristiaeth, rhaglen dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai ac â chefnogaeth Uchelgais Gogledd Cymru drwy Fargen Twf Gogledd Cymru, sydd â'r nod o feithrin sgiliau, cynaliadwyedd ac arloesedd o fewn y sector twristiaeth leol.
Bydd Snowdonia Hospitality & Leisure Limited, busnes lletygarwch teuluol sy'n rhedeg sefydliadau adnabyddus fel Gwesty'r Royal Oak - lle llofnodwyd y cytundeb - The Stables Lodge, Y Stablau, a Gwesty'r Waterloo ym Metws-y-Coed, yn cydweithio'n agos â changen ymgysylltu â chyflogwyr Grŵp Llandrillo Menai, Busnes@LlandrilloMenai, i ddarparu cyfleoedd hyfforddi yn y byd go iawn i ddysgwyr.
“Mae’r cydweithio hwn yn gyfle gwych i gefnogi pobl ifanc ledled y rhanbarth i gael gyrfaoedd gwerth chweil,” meddai Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol Grŵp Llandrillo Menai. “Drwy gyfuno arbenigedd gweithredol Snowdonia Hospitality & Leisure â’n profiad helaeth ni mewn addysgu, gallwn gyd-greu gweithwyr proffesiynol medrus sydd â'r sgiliau i gefnogi economi ymwelwyr sy'n ffynnu i'r dyfodol.”
Bydd y prif feysydd y cydweithio yn cynnwys:
- Cyflwyno prentisiaethau a hyfforddiant proffesiynol ar safleoedd o eiddo Snowdonia Hospitality & Leisure Limited;
- Ymgysylltu ag ysgolion a busnesau bach a chanolig i hyrwyddo gyrfaoedd o fewn lletygarwch a thwristiaeth;
- Ymdrechion ar y cyd i hyrwyddo arferion cynaliadwy a chadwyni cyflenwi lleol;
- Cynnal digwyddiadau a gweithdai ar y cyd i feithrin cydweithio ac arloesedd ar draws y sector.
Dywedodd Glenn Evans, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Snowdonia Hospitality & Leisure Limited,
“Rydym wrth ein bodd yn dod yn rhan o'r Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Mae llofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin talent, a chynnal diwydiant lletygarwch bywiog gogledd Cymru. Drwy gydweithio â Grŵp Llandrillo Menai, rydym yn helpu i baratoi'r genhedlaeth nesaf drwy gynnig profiad a sgiliau defnyddiol."
Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Aelod Arweiniol Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth Uchelgais Gogledd Cymru,
“Mae gan Snowdonia Hospitality & Leisure gymaint o wybodaeth a dealltwriaeth o'r sector i’w rhannu fel partner strategol o fewn y Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Mae llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn cynrychioli moment cyffrous a thyngedfennol i’r prosiect hwn. Mae wedi’i gynllunio i ddiogelu'r sector twristiaeth a lletygarwch, sy'n hanfodol yng Ngogledd Cymru, ar gyfer y dyfodol.”
Daw'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i rym ar unwaith a bydd yn parhau ar waith am y deng mlynedd nesaf, gan gyd-fynd â nodau rhanbarthol ehangach, gan gynnwys amcanion Bargen Twf Gogledd Cymru a'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.
Dysgwch ragor am y Rhwydwaith Talent Twristiaeth, yma.