Academi Ddigidol Werdd yn ddatgarboneiddio busnesau Gogledd Cymru
Mae busnesau bach a chanolig ledled Gogledd Cymru yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at ddyfodol sero net, diolch i’r Academi Ddigidol Werdd – menter wedi ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF).
Mae 94 o fusnesau wedi manteisio ar gyfanswm o £377,000 mewn cyllid grant, sydd wedi eu helpu i leihau allyriadau carbon ac i fabwysiadu technolegau gwyrdd. Mae'r prosiect hefyd wedi rhoi hyfforddiant arbenigol i bron i 500 o unigolion, ac wedi cyflwyno 179 o gynlluniau datgarboneiddio wedi'u teilwra, gan roi rheolaeth i fusnesau dros eu taith tuag at gynaliadwyedd.
Gan weithredu ar draws pum sir yng Ngogledd Cymru, mae'r Academi Ddigidol Werdd wrth graidd arloesedd, cynaliadwyedd, a datblygiad digidol.
Yn ôl Donna Hodgson, Rheolwr Prosiect Rhanbarthol Busnes@LlandrilloMenai: "Mae'r Academi Ddigidol Werdd wedi cefnogi – ac yn parhau i gefnogi – busnesau i gymryd camau breision a mesuradwy tuag at gynaliadwyedd.
"Mae'n amlygu rôl hollbwysig buddsoddiad penodol a chefnogaeth strategol wrth helpu busnesau i addasu i ddyfodol gwyrddach a deall pŵer technoleg newydd. I’r busnesau sydd wedi cymryd rhan, nid dim ond cynllunio ar gyfer sero net yw’r nod – ond gwireddu hynny."
Un busnes a elwodd o'r rhaglen yw Outdoor Alternative, sydd wedi’i leoli yn Ynys Môn. Yn ôl y perchennog, Chris Wright, mae’r gefnogaeth wedi trawsnewidiwyd y ffordd maen nhw’n gweithredu. Meddai: "Rhoddodd yr Academi Ddigidol Werdd gynllun clir i ni ar gyfer datgarboneiddio. O ganlyniad, rydym wedi buddsoddi mewn system wresogi sy'n cael ei phweru gan ynni adnewyddadwy. Mae’n wych gwybod, pan fydd ein cwsmeriaid yn cael cawod ar ddiwedd y dydd, mai haul Rhoscolyn – nid LPG – sy'n cynhesu'r dŵr!"
Mae Busnes@LlandrilloMenai yn ehangu yr hyfforddiant maen nhw’n yn ei gynnig, diolch i gyllid gan Gyngor Ynys Môn a Chyngor Sir Ddinbych trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r Academi Ddigidol Werdd.
Y nod yw cael effaith hir-dymor ar dwf economaidd rhanbarthol trwy helpu busnesau i fabwysiadu arferion mwy cynaliadwy – megis ynni adnewyddol, diweddaru systemau, effeithlonrwydd ynni, datgarboneiddio ac arloesedd digidol. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu o Ganolfan CIST yn Llangefni ac o safle hyfforddi newydd Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Busnes Llanelwy.
Ychwanegodd Donna Hodgson: "Bydd y datblygiadau hyn yn darparu cefnogaeth arbenigol barhaus i fusnesau ledled Gogledd Cymru wrth iddyn nhw weithio tuag at eu huchelgais sero net. Gyda ffocws cryf ar ynni adnewyddol, diweddaru systemau, effeithlonrwydd ynni, datgarboneiddio ac arloesedd digidol, mae'r Academi Ddigidol Werdd wedi helpu i osod y sylfeini ar gyfer economi ranbarthol fwy gwyrdd a gwydn."