Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canolfan Astudio Grŵp Llandrillo Menai'n dathlu dros 20 mlynedd o achrediad CIM

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n dathlu dros 20 mlynedd fel darparwr achrededig cymwysterau marchnata a marchnata digidol proffesiynol gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM).

Dros y ddau ddegawd diwethaf a mwy, mae'r ganolfan wedi cefnogi cannoedd o unigolion ym maes marchnata a rhai sy'n dyheu am weithio yn y maes, gan gynnig llwybr hyblyg a fforddiadwy i gymwysterau â pharchu rhyngwladol - o Lefel 3 CIM lefel mynediad hyd at Lefel 6.

Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i ehangu mynediad at ddatblygiad proffesiynol, mae Tystysgrif Lefel 4 CIM mewn Marchnata Proffesiynol a Marchnata Digidol bellach yn cael ei chynnig wedi'i hariannu'n llawn trwy gynllun Cyfrif Dysgu Personol (CDP) Llywodraeth Cymru. Mae'r cyfle hwn yn caniatáu i unigolion cymwys ennill cymhwyster marchnata cydnabyddedig — gan gefnogi datblygiad gyrfa a chryfhau sgiliau'r gweithlu lleol.

Fel Canolfan Astudio Achrededig sefydlog i CIM, mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig ystod o gymwysterau sy'n cyflwyno gwybodaeth hanfodol a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar ddysgwyr i lwyddo yn y byd marchnata.

“Rydym yn hynod falch o nodi dros 20 mlynedd fel Canolfan Astudio Achrededig CIM,” meddai Mark Learmonth, Pennaeth Rheolaeth a Hyfforddiant Proffesiynol gyda Grŵp Llandrillo Menai.

“Mae’r garreg filltir hon yn brawf o'n hymrwymiad hirhoedlog i gefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes marchnata ym mhob cam o’u gyrfa. Mae ein dysgwyr yn mynd ymlaen i lunio strategaethau brand, i arwain ymgyrchoedd a chyfrannu at dwf busnesau ledled Cymru a thu hwnt.”

Mae cymwysterau CIM ymhlith y rhai mwyaf uchel eu parch yn y diwydiant. Yn ôl Arolwg Cyn-fyfyrwyr CIM, byddai 75% o fyfyrwyr yn argymell cymhwyster CIM, ac mae 60% yn nodi eu bod yn cael eu parchu'n fwy yn y gwaith neu eu bod yn cael mwy o gyfrifoldeb o ganlyniad i'w hastudiaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am astudio cymwysterau CIM gyda Grŵp Llandrillo Menai, ewch i:
www.gllm.ac.uk/CIM neu anfonwch neges e-bost at cim@gllm.ac.uk

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date