Prosiect newydd sy'n cynnig hyfforddiant 'gwyrdd' i fusnesau yng Ngwynedd a Môn
Mae prosiect yn cael ei lansio i gynnig hyfforddiant 'gwyrdd' a ariennir yn llawn i helpu unigolion a busnesau yng Ngwynedd a Môn i gymryd camau ymarferol tuag at ddyfodol carbon isel.
Bydd Prosiect Pontio Sgiliau Gwyrdd i Gyflogwyr y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei redeg Busnes@LlandrilloMenai rhwng Medi 2025 a Mawrth 2026 a'r bwriad yw cefnogi 30 gweithiwr ym Môn a 90 yng Ngwynedd.
Y gobaith yw adeiladu ar lwyddiant dau brosiect blaenorol – Sero Net Gwynedd a Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru. Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) sydd wedi cefnogi'r tri phrosiect.
Bydd y prosiect newydd yn galluogi Busnes@LlandrilloMenai i barhau i gynnig hyfforddiant arbenigol a ariennir yn llawn mewn meysydd sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, fel ôl-osod, ynni adnewyddadwy a gwres o'r aer ac o'r ddaear.
Nod yr hyfforddiant yw cefnogi cwmnïau bach ac unigolion i allu cynnig gwasanaethau newydd a dod yn rhan o'r cadwyni cyflenwi sy'n cefnogi'r gwaith o leihau carbon mewn tai ac yn y diwydiant adeiladu.
Bydd y prosiect hefyd yn cyllido hyfforddiant perthnasol ym maes sgiliau busnes a rheoli, fel cymwysterau Rheoli Prosiectau Prince2, cyrsiau marchnata CIM a modiwlau micro ddysgu amrywiol.
Geraint Jones, Rheolwr Contractau Grŵp Llandrillo Menai, fydd yn rheoli'r prosiect a bydd arbenigwyr o Busnes@LlandrilloMenai a CIST (y Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg) yn darparu'r hyfforddiant arbenigol.
Cynhelir yr hyfforddiant yng Nghanolfan CIST Llangefni, Tŷ Gwyrddfai, Penygroes, a Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai, a bydd peth darpariaeth ar gael ar-lein hefyd. Y cyswllt e-bost ar gyfer y prosiect yw: busnes@gllm.ac.uk
Cefnogodd y ddau brosiect blaenorol a redwyd gan Busnes@LlandrilloMenai a CIST gwmnïau ac unigolion i ddatblygu eu sgiliau trwy gael hyfforddiant arbenigol a chymwysterau wedi'u hachredu ym maes adeiladu, peirianneg sifil, lleihau carbon ac ôl-osod.
“Bwriad y prosiect yw helpu pobl a busnesau i gymryd camau ymarferol tuag at ddyfodol carbon isel,” meddai Gwenllian Roberts, uwch gyfarwyddwr datblygiadau masnachol Busnes@LlandrilloMenai.
“Gwyddom fod y galw am sgiliau gwyrdd yn tyfu'n gyflym ac rydyn ni am sicrhau bod gan gyflogwyr lleol y gallu a'r hyder i fynd i'r afael â'r gwaith. Drwy gynnig hyfforddiant a ariennir yn llawn mewn meysydd fel ôl-osod, ynni adnewyddadwy a rheoli prosiectau, rydyn ni'n cefnogi busnesau bach i dyfu, i addasu ac i barhau i wasanaethu eu cymunedau.
“Y bwriad ydi cynnig y sgiliau iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn, fel bod ein heconomi leol yn gallu ffynnu mewn byd sy'n newid.”
Pennawd i'r llun: Y darlithydd, Jonathan Williams yn arwain sesiwn hyfforddi yng nghanolfan CIST, Llangefni.