Dros 500 o Fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai'n Graddio mewn Seremoni yn Venue Cymru
Cyflwynwyd graddau, cymwysterau lefel prifysgol a dyfarniadau proffesiynol i dros 500 o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn y seremoni raddio flynyddol yn Llandudno
Cyflwynwyd graddau, cymwysterau lefel prifysgol a dyfarniadau proffesiynol i dros 500 o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn y seremoni raddio flynyddol yn Llandudno.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, yn dathlu llwyddiannau myfyrwyr o bob rhan o ogledd-orllewin Cymru sydd wedi gweithio mor galed i gwblhau eu cyrsiau addysg uwch a'u cymwysterau proffesiynol.
Cafodd graddedigion o Goleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor eu cydnabod am eu llwyddiant wrth ennill cymwysterau israddedig a sylfaen, TAR, tystysgrifau cenedlaethol uwch a mwy. Yn ogystal, dyfarnwyd cymwysterau proffesiynol mewn meysydd fel rheolaeth, adnoddau dynol, cyfrifyddu, marchnata a busnes trwy Busnes@LlandrilloMenai.
Nid oedd y daith tuag at radd bob amser yn hawdd. Roedd llawer o'r myfyrwyr yn gorfod cydbwyso galwadau gwaith a bywyd teuluol, a bu'n rhaid i eraill oresgyn problemau iechyd i gyrraedd y garreg filltir hon.
Roedd y seremoni nid yn unig yn dynodi diwedd teithiau academaidd y myfyrwyr, ond hefyd y cyfleoedd newydd cyffrous sydd o'u blaenau wrth iddynt ddechrau ar y bennod nesaf yn eu gyrfaoedd.
Roedd cael HNC dosbarth mewn Adeiladwaith yn gam sylweddol ymlaen ar ei thaith academaidd i Gabrielle Owen o Dregarth ger Bangor.
Meddai Gabrielle, “Dw i wedi dysgu gymaint ar y cwrs dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi gwthio fy hun i astudio pynciau sydd wedi ehangu fy ngwybodaeth am y diwydiant adeiladu. Mae'n faes cyffrous dros ben a dw i'n awyddus i ddal ati i ddysgu pan fydda i'n dechrau fy nghwrs gradd mewn Mesur Meintiau ym Mhrifysgol Wrecsam ym mis Medi.”
Er gwaethaf wynebu heriau dyslecsia, mae Gabrielle wedi profi y gall gwaith caled a dyfalbarhad oresgyn unrhyw rwystr. “Dydi addysg ddim yn wastad wedi bod yn hawdd i mi, yn enwedig gan fod dyslecsia arna i – ond ro'n i'n benderfynol o brofi i mi fy hun ’mod i'n gallu gwneud yn llawn cystal â phawb arall,” meddai.
Enillodd Hazel Russell, darlithydd ESOL yng Ngholeg Menai, ragoriaeth yn ei chwrs TAR, camp a wnaed hyd yn oed yn fwy arbennig gan y ffaith iddi ddod yn fam yn ystod ail flwyddyn ei rhaglen.
Meddai, “Pan es i'n feichiog yn fy ail flwyddyn ro'n i'n ddiolchgar iawn i'r darlithwyr am roi i mi'r hyblygrwydd a'r gefnogaeth roedd eu hangen arnaf i raddio. Dw i'n edrych ymlaen rŵan at ddychwelyd i addysgu pan ddaw fy nghyfnod mamolaeth i ben!”
Un arall oedd yn graddio o'r rhaglen TAR oedd Lisa Hogg o'r Rhyl, a gafodd radd Teilyngdod er gwaethaf gorfod cael llawdriniaeth frys i gael clun newydd, a symud tŷ ar fyr rybudd, yn ystod y cwrs.
Meddai, “Dw i wedi dysgu am lawer mwy nag addysgu'n unig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Dw i wedi dysgu sut i gydbwyso pethau, a pha mor bwysig ydi rheoli amser, dal ati, a gofalu am fy iechyd.”
I Lisa, un o elfennau pwysicaf ei phrofiad oedd y gefnogaeth gadarn a gafodd gan arweinydd ei rhaglen, Lesley Surguy-Price. “Mi wnaeth Lesley, arweinydd y rhaglen, wahaniaeth mawr trwy ddangos bod ganddi hi ffydd ynof fi,” eglurodd Lisa. “Trwy ei gwaith mentora mi ddangosodd i mi pa mor bwysig ydi cael rhywun yn gefn i chi.”
Derbyniodd Sophie Davies o Gyffordd Llandudno radd BSc (Anrh.) 2:1 mewn Gwyddor Chwaraeon – er ei bod wedi gorfod byw mewn llety i'r digartref am bron i flwyddyn o'i chwrs.
Dim ond ar ôl cael ei mab bum mlynedd yn ôl y dechreuodd Sophie gymryd diddordeb mewn ffitrwydd, ond mae hi bellach yn bwriadu sefydlu busnes tylino ym maes chwaraeon.
Meddai: “Mi ges i iselder ar ôl cael fy mab, doedd gen i ddim hyder ac ro'n i'n teimlo'n hunanymwybodol iawn pan ddechreuais i fynd i'r gampfa. Ond yn y diwedd mi gollais i bedair stôn ac mi ddechreuais i gael blas go iawn arni. Mi wnes i hefyd ganfod ei fod yn llesol iawn i fy iechyd meddwl, felly dyma benderfynu bod hwn yn faes yr hoffwn i weithio ynddo.
“Rydw i wedi llwyddo i orffen fy nghwrs gradd a'r cwrs Lefel 3 mewn Tylino ym maes Chwaraeon tra hefyd yn magu fy mab pump oed ar fy mhen fy hun a gweithio dau ddiwrnod yr wythnos. Mi wnes i gwblhau fy mlwyddyn gyntaf tra o'n i'n byw mewn llety i'r digartref am 11 mis.
“Roedd hynny'n anodd, ond mi ddes i drwyddi. Ro'n i'n gweithio ar ôl i fy mab fynd i'w wely, ac yn cyrraedd y coleg ddwy awr yn gynnar ar ôl mynd â fo i'r clwb brecwast. Felly ro'n i'n cael dwy awr yn y llyfrgell cyn i'r darlithoedd ddechrau.
“Roedd y tiwtoriaid yn wych - a dweud y gwir mi wnes i roi’r gorau i’r cwrs tylino pan o'n i hanner ffordd drwyddo, ond mi wnaeth Amy a Charlotte fy mherswadio i ddod yn ôl, a dw i'n falch iawn ’mod i wedi gwneud hynny. Fy mwriad i rŵan ydi dilyn y cwrs TAR er mwyn gallu rhoi gwersi tylino ym maes chwaraeon, a dw i hefyd yn dechrau busnes tylino symudol."
Cafodd Lesley Ann Roberts radd Rhagoriaeth yn ei Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau.
Meddai: “Mi ges i fy mab yn ifanc iawn a wnes i ddim yn dda iawn yn fy arholiadau TGAU. Mae'r cwrs Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi agor y drws i fyd hollol newydd. Do'n i erioed yn gwybod bod y mathau hyn o gyfleoedd i'w cael.
“Mae astudio a gweithio mewn archfarchnad wedi bod yn anodd, a bod yn fam a gwraig ar ben hynny. Ond mae'r cyfan wedi bod yn werth chweil. Y goron ar y cwbl oedd cael gwybod fy mod i wedi cael gradd Rhagoriaeth. Mi fydda i'n dod yn ôl fis Medi i ddilyn cwrs BA (Anrh.) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.”
Yng Ngholeg Meirion-Dwyfor hefyd, enillodd Tomos Puw Jones radd 2.1 yn ei gwrs BA (Anrh.) mewn Rheoli Busnes.
Meddai Tomos: “Gan ’mod i'n gweithio ar y fferm deuluol ac i'n busnes contractio, Dinas Contracting, ro'n i'n meddwl y byddai cael cymhwyster proffesiynol mewn Rheoli Busnes yn ddefnyddiol pan fydda i'n cymryd yn awenau ymhen ychydig flynyddoedd.
“Mae'r cwrs gradd wedi bod yn wirioneddol werthfawr i mi. Mae gen i ddealltwriaeth lawer gwell o'r busnes, sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn yng ngogledd-orllewin Cymru, a dw i'n edrych ymlaen at ei weld yn mynd o nerth i nerth.”
Cafodd Bethan Ronan o'r adran Iaith Arwyddion yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos radd Rhagoriaeth yn ei Thystysgrif Broffesiynol mewn Addysg.
Dywedodd bod ei chwrs wedi bod yn “daith anhygoel o dyfu a dysgu”, gan ychwanegu: “Dw i wedi dysgu cymaint mwy nag ro'n i’n ei ddisgwyl, yn enwedig ar ôl cwblhau cwrs tebyg ychydig flynyddoedd yn ôl (Hyfforddi Athrawon Iaith Arwyddion Lefel 4).
“Mae'r gefnogaeth gan yr athrawon wedi bod yn anhygoel, yn enwedig gyda'r heriau dw i wedi'u hwynebu gartref a gyda'r Lwfans Myfyrwyr Anabl, a dw i'n wirioneddol ddiolchgar iddyn nhw am hynny. Y cam nesaf i mi fydd cwblhau'r cwrs Lefel 6 mewn Iaith Arwyddion Prydain er mwyn i mi allu cyflwyno'r holl gyrsiau BSL rydyn ni'n eu cynnig yng Ngrŵp Llandrillo Menai.”
Ar ôl dechrau ei daith yn y coleg fel myfyriwr ar y cwrs Peirianneg Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Mecanyddol mae'r darlithydd o Goleg Menai, Osian Roberts, wedi graddio gyda Rhagoriaeth yn y cwrs HNC mewn Peirianneg.
Dywedodd Osian:
“Mae cael y cymhwyster HNC wedi bod yn gam pwysig i mi yn fy ngyrfa, gan fy ngalluogi i symud ymlaen i swydd darlithydd mewn Peirianneg yn Llangefni. Dw i wedi mwynhau'r cwrs yn fawr ac yn edrych ymlaen at barhau gyda fy astudiaethau. Y gobaith yn y pen draw ydi symud ymlaen i gwrs gradd llawn ar ôl cwblhau fy nghymhwyster addysgu.”
Enillodd Kim Shenton ei Diploma CIM Lefel 6 mewn Marchnata Proffesiynol a Digidol drwy Busnes@LlandrilloMenai – gwasanaeth hyfforddi Grŵp Llandrillo Menai i fusnesau.
Ar ôl dechrau'r cwrs Lefel 3 pan oedd yn gweithio yn nerbynfa gwesty'r Beaches ym Mhrestatyn yn ystod y pandemig, aeth Kim ymlaen i'r cwrs Lefel 4 a chael ei swydd farchnata gyntaf yn y gwesty.
Pan sylweddolodd y gwesty bod ei gwaith yn cael effaith, fe wnaethon nhw dalu iddi wneud y cwrs Lefel 6. Mae hi bellach wedi cael dyrchafiad i swydd uwch swyddog marchnata lle mae hi'n gyfrifol am weithgareddau marchnata tri gwesty yn yr un grŵp.
Dywedodd, “Roedd astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 6 CIM yn brofiad a roddodd lawer o foddhad i mi. Mae llawer o'r hyn a ddysgais yn ddefnyddiol i mi yn fy ngwaith bod dydd, ac roedd Andrea'n diwtor gwych oedd yn rhoi anogaeth a chefnogaeth gyson i mi trwy gydol y cwrs.”
“Ers cwblhau’r cymhwyster, dw i wedi cael dyrchafiad, ac mae hyn yn brawf o faint dw i wedi'i ddatblygu'n broffesiynol trwy’r cyrsiau CIM sy'n cael eu cyflwyno gan Andrea.”
Graddiodd Sue Holdsworth o gwrs Prentisiaeth Uwch Lefel 5 yr ILM.
Gan ei bod eisoes yn rheolwr profiadol yn Busnes@Llandrillo Menai, penderfynodd Sue ddilyn y cwrs hwn i gryfhau ei sgiliau arwain ac i gael syniadau newydd i'w rhoi ar waith yn ei swydd.
Dywedodd Sue: “Mi ddois i'n Brentis Uwch yn 58 oed – nid am fod rhaid i mi, ond am fy mod i eisiau. Mae'r cymhwyster wedi fy helpu i wella yn fy swydd trwy roi cyfle i mi ystyried sut dw i'n arwain ac i herio'r ffordd dw i'n gweithio.”
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig dewis helaeth o gyrsiau Addysg Uwch. Cymerwch olwg ar yr hyn sydd ar gael: gllm.ac.uk/graddau