Gwobr Genedlaethol i Claire Elizabeth Hughes
Mae Claire Elizabeth Hughes, prentis Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 gyda Busnes@LlandrilloMenai wedi ennill gwobr 'Talent Newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er cof am Gareth Pierce'. Mae'r wobr yn cydnabod unigolion sydd wedi dangos talent arbennig ac wedi serennu yn y gweithle.
Mae Claire yn gweithio yng Nghartref Preswyl Gwyddfor, Bodedern, Ynys Môn ble mae hi'n cynnig gofal dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Cafodd ei chanmol am safon ei hagwedd broffesiynol, ei harddull gofalgar a'i gallu i ymwneud yn dda â'r preswylwyr. Nodwyd yn benodol bod ei defnydd o'r Gymraeg a Saesneg yn ei gwaith yn sicrhau bod dewis ac urddas yn greiddiol i'w hymarfer.
Dywedodd Mary Williams, Rheolwr y Cartref:
"Mae Claire wedi gweithio yma ers 2022, ac wedi datblygu o fod yn weithiwr iau i ymarfer gofal uwch yn gwbl ddidrafferth. Roedd hi'n therapydd harddwch cyn dechrau yma ac erbyn hyn mae hi'n gaffaeliad i'r cartref ac yn uchel ei pharch gan bawb.
Mae llesiant pob preswylydd o ddiddordeb mawr iddi ac mae hi'n gwneud ymdrech gwirioneddol i sicrhau eu bod yn daclus bob amser ac yn cael eu trin ag urddas. Mae hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant yn bwysig iawn iddi, mae hynny i'w weld yn glir yn ei gwaith bob dydd.
Yn y cartref, mae siarad Cymraeg yn rhan naturiol o'n bywyd bob dydd ac mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hyrwyddo llesiant ac yn rhoi teimlad o berthyn i breswylwyr. Mae Claire yn deall pwysigrwydd cynnal a hyrwyddo'r iaith ac mae sicrhau parch a gwerthfawrogiad ohoni yn rhan greiddiol o bob agwedd o'i gwaith."
Ychwanegodd Gwyn-Arfon Williams, Asesydd Claire:
"Mae Claire yn ddysgwr rhagorol sydd yn rhagori ar ddisgwyliadau bob amser. Mae hi'n gweithio'n ddiflino i gefnogi unigolion sy'n byw efo dementia, ac mae'r ffaith ei bod yn cyfathrebu mewn dwy iaith yn rhagorol - mae'n bont bwysig i breswylwyr sy'n teimlo'n fwy cyfforddus yn cyfathrebu yn y Gymraeg.
Yn ogystal â bod yn brentis cymwynasgar a charedig mae hi'n fodel rôl yn y gweithle, yn arwain, yn dangos empathi ac yn awyddus i ddysgu bob amser. Mae'r wobr hon yn gwbl haeddiannol."
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio i gynyddu a hyrwyddo cyfleoedd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-16 yng Nghymru ac yn cefnogi dysgwyr fel Claire i ffynnu ac ymwreiddio'r iaith yn eu hymarfer proffesiynol.
Mae llwyddiant Claire yn tanlinellu effaith prentisiaethau yn y sector gofal, maen nhw'n caniatáu i ddysgwyr weithio tuag at gymwysterau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ar yr un pryd.
Oes gen ti ddiddordeb mewn gyrfa ym maes gofal? I gael rhagor o wybodaeth am y prentisiaethau Iechyd a Gofal Busnes@LlandrilloMenai: www.gllm.ac.uk/busnes