Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dathlu canlyniadau rhagorol yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Unwaith eto eleni, mae dysgwyr Coleg Llandrillo, Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Menai a Busnes@LlandrilloMenai yn dathlu canlyniadau rhagorol yn eu harholiadau.

Y bore 'ma mae dysgwyr wedi llwyddo i ennill 2,600 o gymwysterau yn eu cyrsiau galwedigaethol lefel 3 a Safon Uwch.


Mae'r rhai a enillodd raddau A* ac A yn eu harholiadau Safon Uwch wedi cynyddu i 24%, gyda 76% yn cael graddau A* i C, a 99% yn pasio.

Enillodd 21% o'r dysgwyr galwedigaeth y graddau uchaf posibl sef Rhagoriaeth neu Ragoriaeth*,(+4% ers 2024) a chafodd 62% raddau Teilyngdod, Rhagoriaeth neu Ragoriaeth* (+12% ers 2024).

Yn gyffredinol, llwyddodd 95% o'r dysgwyr i ennill eu cymwysterau Lefel 3 a Safon Uwch.

Mae 44 myfyriwr o Grŵp Llandrillo Menai wedi cael lle mewn prifysgolion sy'n perthyn i Grŵp Russell, ac mae grŵp y coleg wedi gweld cynnydd yn nifer y dysgwyr sy'n dewis astudio ym mhrifysgolion Cymru.

Mae graddau Safon Uwch rhagorol dysgwyr y Grŵp yn uwch na chymharydd cenedlaethol y Deyrnas Unedig a bydd hyn yn eu galluogi i fynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion blaenllaw ledled Prydain, gan gynnwys: King's College Llundain, Prifysgol Lerpwl, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Bryste, Prifysgol Wrecsam a Phrifysgol Bangor. Bydd eraill yn dewis parhau â'u Haddysg Uwch ar un o gyrsiau gradd Grŵp Llandrillo Menai.

Derbyniwyd dysgwyr o Grŵp Llandrillo Menai i astudio pynciau amrywiol, gan gynnwys Meddygaeth, Ieithyddiaeth, Seicoleg, Marchnata Ffasiwn, Optometreg, Peirianneg, y Gyfraith, Ffiseg, Nyrsio, a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Yn eu mysg mae Gwern Doherty o Goleg Llandrillo, a fydd yn astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Manceinion ar ôl cael A*AA mewn Ffiseg, Mathemateg a Mathemateg Bellach.

Meddai, “Diolch i'r holl staff a helpodd fi gyda'r cwrs, fy ngheisiadau i brifysgol, fy rygbi, fy amserlen, ac yn y blaen. Mi wnes i'r gorau o fy amser yma oherwydd eu hymdrechion nhw, felly fedra i ddim diolch digon iddyn nhw.”

Un dysgwr sy'n manteisio ar y cyrsiau gradd a gynigir yn y coleg yw Isaac Williams, a fydd yn dilyn y cwrs BA mewn Celfyddydau Coginio yn Llandrillo-yn-Rhos.

Mae Isaac, a ddilynodd gwrs Lefel 3 mewn Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo, hefyd yn gweithio dan oruchwyliaeth arbenigol Bryn Williams yn ei fwyty newydd yn Theatr Clwyd.

Meddai Isaac,

“Mi wnes i fwynhau’r cwrs yn arw. Roedd y staff yn gefnogol iawn, yn dangos gwahanol dechnegau i mi ac yn dweud beth oedd angen ei ddysgu – mi wnaeth popeth glicio a dod i wneud synnwyr. Dw i wedi cael y profiad ymarferol gorau bosib yn y byd coginio.”

Ar ôl astudio Peirianneg ar safle Hafan ym Mhwllheli, mae Jac Fisher o Goleg Meirion-Dwyfor wedi cael lle i wneud Prentisiaeth Gradd ym maes Ynni gyda Chyngor Gwynedd.

Meddai, “Yn y coleg mi ges i gyfle i wneud ffrindiau newydd, ac ennill sgiliau a chymwysterau gwerthfawr sydd wedi fy helpu i gael Prentisiaeth Gradd gyda Chyngor Gwynedd. Roedd y gefnogaeth ges i gan y staff a'r myfyrwyr eraill yn werthfawr tu hwnt, a dw i'n edrych ymlaen yn fawr at fy ngham nesaf. Rydw i'n ddiolchgar iawn am bopeth mae'r coleg wedi ei wneud i fy helpu i.”

Cafodd Poppy Jones, un arall o ddysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor, A*AA mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg, ac mae hi ar ei ffordd i Brifysgol Caerdydd i astudio Optometreg.

Meddai Poppy, a astudiodd ar gampws Pwllheli,

“Dw i wedi mwynhau fy amser yn y coleg yn fawr. Dw i wedi gallu astudio'r pynciau ro'n i'n eu mwynhau yn yr ysgol ac wedi cael fy nysgu gan diwtoriaid sy'n arbenigwyr yn eu pwnc.

“Gan fy mod i'n dilyn cyrsiau STEM ro'n i'n treulio llawer o amser yn y labordai oedd yn fodern iawn. Roedd fy nhiwtoriaid yn wastad yn gwneud eu gorau glas i roi deunydd dysgu ychwanegol a chefnogaeth un i un i mi os o'n i'n cael trafferth gyda rhywbeth. Felly ro'n i'n dal i allu mwynhau pynciau eithaf trwm.”

Mae Courtney Hoey wedi sicrhau lle i astudio Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl, ac ôl cwblhau ei Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Menai. Meddai,

“Mi wnes i fwynhau fy amser yn y coleg yn fawr, ac mae'r tiwtoriaid wedi fy annog i wneud fy ngorau glas.”

Mae Lois Jones, dysgwr Safon Uwch o Goleg Menai, wedi cael lle ym Mhrifysgol Bangor i astudio Seicoleg ar ôl cael A*AA mewn Cymdeithaseg, Seicoleg ac Iaith a Llenyddiaeth Saesneg. Meddai Lois:

“Mi ges i brofiad gwych yng Ngholeg Menai, ac mae cefnogaeth y tiwtoriaid wedi fy helpu i fagu hyder a datblygu'r sgiliau fydd yn bwysig i mi yn y dyfodol.”

Dilynodd Rhys Morris gwrs Lefel 3 yn y Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol ar gampws y Rhyl, gan ennill tair gradd Rhagoriaeth*.

Meddai, “Pan ddechreuais i yn y coleg roeddwn i'n eithaf nerfus. Do'n i dal ddim yn wych am gymdeithasu – ond mae bod yn y coleg wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau cymdeithasol a magu hyder. Cafodd fy nhiwtor personol, Cara Baker, ddylanwad mawr ar fy natblygiad personol. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi cael yr hyder i wneud cais i'r brifysgol oni bai amdani hi!

“Mae'r coleg hefyd wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi wella fy CV, ac mi wnes i wirioneddol fwynhau'r cwrs a bod yng nghwmni pobl oedd yn rhannu'r un diddordebau â mi.”

Bydd Sid Williams o Chweched y Rhyl yn mynd i Brifysgol Lerpwl i astudio Seicoleg, ar ôl cael ABB mewn Cymdeithaseg, Seicoleg a Hanes. Meddai:

“Mi ges i amser anhygoel yn y coleg. Mi ges i athrawon arbennig, ac roedd y cwrs yn wych. Diolch i bawb yn y coleg!”

Bydd Osian Lockett, a gafodd ddwy radd Rhagoriaeth* ac un radd Rhagoriaeth yn ei gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, yn parhau â'i astudiaeth yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Meddai,

“Fedra i ddim pwysleisio digon pa mor dda oedd tiwtoriaid y cwrs Busnes BTEC; roedden nhw'n gefn mawr i mi. Dyna pam rydw i wedi penderfynu aros ar gampws Dolgellau i ddilyn cwrs gradd mewn busnes.”

Mae Carys Hughes, un arall o fyfyrwyr campws Dolgellau, wedi cael lle ym Mhrifysgol Manceinion i astudio Gwyddor Biofeddygol ar ôl cael tair A mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg. Meddai:

“Mynd i Goleg Meirion-Dwyfor oedd y profiad addysgol gorau i mi ei gael. Dw i'n siŵr na fasa hi wedi bod yn bosib i mi fynd ymlaen i Brifysgol Manceinion heb yr holl help a ges i gan y staff yn adran wyddoniaeth y coleg.”

Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn dathlu blwyddyn arall o ganlyniadau arbennig gan ein dysgwyr. Unwaith eto, mae ein canlyniadau Safon Uwch yn dangos cynnydd mewn graddau A* ac A. Mae ein dysgwyr galwedigaethol hefyd wedi cael graddau ardderchog, gyda chynnydd o 12% yn y rhai a gafodd raddau Rhagoriaeth*, Rhagoriaeth a Theilyngdod o gymharu â'r llynedd.

“Rydyn ni'n eithriadol o falch o'r dysgwyr sy'n mynd ymlaen i brifysgolion sy'n perthyn i Grŵp Russell, a'r rhai sydd wedi cael lle yn y brifysgol oedd ar frig eu rhestr. Mae hyn yn dangos bod astudio yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer llwyddiant academaidd a gyrfaol.

“Nid yn unig mae'r llwyddiant hwn yn dysteb i ymroddiad a phenderfyniad ein dysgwyr, ond hefyd i waith caled ein staff addysgu sydd bob amser yn mynd yr ail filltir i gefnogi ac ysbrydoli eu dysgwyr. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhieni a'r gofalwyr sy'n chwarae rhan mor allweddol yn y llwyddiannau hyn.”

Ychwanegodd,

“Wrth i Brosiect Uchelgais barhau, rydyn ni'n fwy penderfynol nag erioed o ddarparu'r adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar ein dysgwyr i ennill y graddau uchaf posib a chyflawni eu potensial llawn.

“Rydw i'n llongyfarch ein holl ddysgwyr o waelod calon ac yn dymuno'n dda iddyn nhw yn eu holl ymdrechion.”

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan lwyddiant ein dysgwyr ac yn awyddus i ddechrau eich stori drwy ddilyn cwrs yn y coleg, cysylltwch â ni i sicrhau eich lle:

01492 546 666 am Goleg Llandrillo, 01341 422827 am Goleg Meirion-Dwyfor, a 01248 383348 am Goleg Menai.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date