Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prosiect Llywodraeth Cymru yn cyflawni effaith o dros £676 miliwn i'r diwydiant bwyd a diod

Mae prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu cymorth technegol i weithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru wedi cyflawni effaith o dros £676 miliwn ers iddo gael ei lansio yn 2016.

Mae Prosiect HELIX wedi bod yn un o raglenni allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi diwydiant bwyd a diod Cymru dros y degawd diwethaf, gan ddarparu ystod o gymorth, gan gynnwys cymorth gyda chydymffurfiaeth â chynllun ardystio diogelwch bwyd, datblygu cynhyrchion newydd arloesol, a gwella effeithlonrwydd prosesau.

Mae cyhoeddiad effaith gyfan Prosiect HELIX yn cyd-daro â lansio Adroddiad Blynyddol Prosiect HELIX 2024-25, sy'n canolbwyntio ar y cyfnod 1 Gorffennaf 2023 - 31 Mawrth 2025.

Ers 1 Gorffennaf 2023, mae Prosiect HELIX wedi:

  • Cyflawni effaith o dros £303 miliwn i ddiwydiant bwyd a diod Cymru
  • Cefnogi i greu 188 o swyddi a diogelu 6,131 pellach
  • Helpu cwmnïau i ddatblygu 533 o gynhyrchion newydd ac ennill 149 o ardystiadau trydydd parti
  • Gweithio gyda 199 o gwmnïau, gan gynnwys 103 o fusnesau newydd

O ganlyniad i lwyddiant Prosiect HELIX, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid pellach ar gyfer y prosiect, sydd wedi'i ail-lansio fel Rhaglen HELIX.

Un cwmni sydd wedi elwa o gefnogaeth Prosiect HELIX yw Pembrokeshire Gold, gwneuthurwr olew had rêp a redir gan deulu, a gafodd gymorth gyda dylunio ffatri, datblygu cynhyrchion newydd a labelu.

“Mae’r gefnogaeth gan Brosiect HELIX wedi bod o gymorth enfawr wrth ddatblygu ein hamrywiaeth o gynnyrch. Rhoddodd eu harbenigedd mewn datblygu cynhyrchion newydd y wybodaeth a’r gred inni i droi ein holew had rêp wedi’i wasgu’n oer yn rhywbeth mwy – a rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono.”

— Harry Thomas, Cyd-berchennog, Pembrokeshire Gold

Drwy Brosiect HELIX, cynorthwywyd Distyllfa Llanfairpwll, distyllfa grefftau wedi'i lleoli yn Ynys Môn, i drosi'r hylif gwastraff sy'n weddill o'u distylliad rym yn borthiant anifeiliaid, y maent bellach yn ei werthu i ffermwyr lleol.

“Mae cefnogaeth Prosiect HELIX wedi ein galluogi i gynhyrchu ein rym heb wastraff, sy’n helpu i leihau llygredd a gwarchod adnoddau wrth arbed arian i’r ffermwr a ni.”

— Robert Laming, Perchennog, Distyllfa Llanfairpwll

Yn y cyfamser, cafodd Hufen Iâ Mario's, sydd wedi'i leoli yn Sir Gaerfyrddin, gymorth i sicrhau lefel ganolradd BRCGS Start, ardystiad diogelwch bwyd a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer busnesau bach a chanolig.

“Mae’r gefnogaeth gan Brosiect HELIX wedi bod yn hanfodol wrth alluogi Mario i sicrhau ardystiad BRCGS Start ac o ganlyniad i hynny ysgogi twf busnes pellach.”

— Riccardo Dallavalle, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Hufen Iâ Mario’s

Wrth wneud sylwadau ar lwyddiant y prosiect, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

“Mae’r effaith nodedig o £676 miliwn a gyflawnwyd gan Brosiect HELIX yn dangos sut y gall buddsoddiad strategol gan y llywodraeth drawsnewid diwydiant. Mae'r fenter hon wedi bod yn gonglfaen i'n cefnogaeth i weithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, gan greu swyddi, ysgogi arloesedd, a helpu busnesau i ffynnu mewn marchnadoedd cystadleuol. Mae'r straeon llwyddiant gan gwmnïau fel Pembrokeshire Gold, Distyllfa Llanfairpwll, a Hufen Iâ Mario's yn tynnu sylw at y manteision ymarferol y mae'r gefnogaeth dechnegol hon yn eu cynnig i fusnesau o bob maint ledled Cymru.

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi y bydd cyllid yn parhau drwy Raglen HELIX, a fydd yn adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy ddod â diwydiant, llywodraeth ac academia ynghyd i gefnogi twf cynaliadwy yn un o sectorau pwysicaf Cymru. Mae'r ymrwymiad newydd hwn yn adlewyrchu ein hyder mewn cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru a'n penderfyniad i'w gweld yn parhau i arloesi, ehangu ac arddangos ansawdd Cymru ar y llwyfan byd-eang.”

Dywedodd yr Athro David Lloyd, ar ran Rhaglen HELIX:

“Mae effaith Prosiect HELIX, yn ariannol ac o ran cyflogaeth, yn dyst i effeithiolrwydd y wybodaeth sydd wedi’i rhannu rhwng diwydiant, llywodraeth a’r byd academaidd drwy’r prosiect.

“Gyda lansiad Rhaglen HELIX, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ymhellach ei hymrwymiad i annog twf cynaliadwy yn sector sylfaen bwyd a diod Cymru drwy bwyslais cryf ar wella cynhyrchiant, arloesi a chyrraedd safonau blaenllaw yn y diwydiant.”

Cyflwynwyd Prosiect HELIX gan dair canolfan fwyd ledled Cymru – Canolfan Bwyd Cymru yng Ngheredigion, Canolfan Technoleg Bwyd yn Ynys Môn, a Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Fel rhan o ail-lansio Rhaglen HELIX, bydd AberInnovation yng Ngheredigion yn darparu cefnogaeth ymchwil academaidd ledled Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth a ariennir sydd ar gael drwy Raglen HELIX, ewch i: Canolfannau Arloesi HELIX

Lawrlwythwch yr adroddiad blynyddol yma (PDF)

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date