Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

PEDWAR sefydliad addysgol blaenllaw wedi uno i ffurfio Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru (CTGC)

Pedwar sefydliad addysgol blaenllaw wedi uno i ffurfio Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru (CTGC) - partneriaeth nodedig i gryfhau addysg a datblygu sgiliau, hybu twf economaidd ac i wella cyfleoedd bywyd ledled y rhanbarth.

Lansiwyd y Gynghrair heddiw (dydd Mawrth 5 Awst, 2025) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam sy’n cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Wrecsam, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai.

Y nod gyda’i gilydd yw adeiladu system addysg drydyddol fwy cydlynol, cynhwysol a chysylltiedig sy'n gwasanaethu dysgwyr, cymunedau a diwydiannau'n well ar bob lefel.

Sefydlwyd y Gynghrair gyda chenhadaeth ar y cyd o drefnu addysg bellach ac uwch gyda blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol a chefnogi pobl ifanc, dysgwyr sy'n oedolion a chyflogwyr ar hyd llwybrau dilyniant mwy cadarn, mentrau ar y cyd ac arloesedd mewn hyfforddiant ac ymchwil.

Meddai Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria: “Mae’r cydweithrediad hwn yn dwyn ynghyd graddfa ac amrywiaeth ein sefydliadau i wella cyfleoedd i ddysgwyr a gwasanaethu anghenion amrywiol Gogledd Cymru.

“Trwy gyd-drefnu nodau MEDR, y Comisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil, rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus a system addysg fwy cydgysylltiedig.”

Ychwanegodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym am ei gwneud hi'n haws i bobl ifanc symud o'r ysgol i'r coleg a'r brifysgol ac i oedolion allu ail-afael mewn addysg ar unrhyw gyfnod o fywyd.

“Bydd y Gynghrair hon yn ein galluogi ni i helpu pobl i gael swyddi o safon a chau’r bwlch rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd.”

Mae’r Gynghrair wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth sy'n ymrwymo'r sefydliadau i gydweithio am bedair blynedd gyda'r uchelgais i hybu dilyniant o addysg bellach i addysg uwch; datblygu system sgiliau sy'n cyd-fynd ag anghenion economaidd rhanbarthol; hyrwyddo addysg ddwyieithog a darpariaeth cyfrwng Cymraeg; darparu hyfforddiant cynhwysol o ansawdd uchel o lefel mynediad i brentisiaethau gradd ac ehangu ymchwil ac arloesedd sy'n sbarduno effaith ddinesig ac economaidd.

Meddai’r Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor sy’n croesawu’r syniad: “Trwy gydweithio’n agos gallwn sicrhau ein bod yn darparu ystod eang o gyfleoedd i fyfyrwyr, busnesau a’r rhanbarth.

“Mae’r Gynghrair yn cryfhau llwybrau ac yn ein helpu i ddarparu system addysg sy’n fwy hygyrch, hyblyg a pharod ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd yr Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Rydym wedi ein huno gyda’r gred bod cydweithio yn datgloi atebion.

“Mae’r Gynghrair hon yn canolbwyntio ar gynyddu cyfranogiad mewn sgiliau lefel uwch yn enwedig mewn cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac adeiladu’r gweithlu sydd ei angen yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.”

Yn hollbwysig bydd y Gynghrair yn anelu at weithio nid yn unig ar draws y system addysg ond mewn partneriaeth â diwydiant, busnesau a sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt gan sicrhau y gall yr ardal ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n codi mewn economi sy'n newid.

Wrth weithredu Cwricwlwm Cymru bydd y Gynghrair hefyd yn cryfhau cysylltiadau ag ysgolion gan helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddilyn llwybrau addysg a hyfforddiant sy'n arwain at lwyddiant mewn gwaith a bywyd.

Mae Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru yn cynrychioli pennod newydd feiddgar ar gyfer addysg ôl-16 — un sydd wedi'i hadeiladu ar gydweithio, cymuned ac ymrwymiad i'r dyfodol.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date