Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn rowndiau terfynol Worldskills UK

Myfyrwyr a phrentisiaid o Goleg Menai, Coleg Llandrillo a Busnes@LlandrilloMenai i gystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK a SkillBuild ym mis Tachwedd

Mae 16 o ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi cael eu dewis i gystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol cystadlaethau WorldSkills UK a SkillBuild 2025.

Bydd myfyrwyr o Goleg Menai a Choleg Llandrillo, ynghyd â phrentisiaid Busnes@LlandrilloMenai, yn cystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK mewn lleoliadau ledled de Cymru o rhwng 25 a 28 Tachwedd.

Cyn hynny, bydd myfyriwr o Goleg Menai, Luke Quarless, yn dangos ei ddoniau yn rownd derfynol genedlaethol SkillBuild ym Milton Keynes (19 a 20 Tachwedd).

Y dysgwyr sydd wedi'u dewis i gystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK yw:

Coleg Menai:

Connie Whitfield - Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen

Oliver Weldon - Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen

Guy Geurtjens - Cynhyrchu Cyfryngau Digidol

Cai Owen - Cynhyrchu Cyfryngau Digidol

Aron Hughes - Cynhyrchu Cyfryngau Digidol

Matthew Owen - Cynhyrchu Cyfryngau Digidol

Richell Williams-Smith - Sgiliau Sylfaenol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Iwan Nicklin - Electroneg Ddiwydiannol

Coleg Llandrillo:

Kayleigh Blears - Trin Gwallt

Alwena Hughes - Trin Gwallt

Zack Arnold - Ynni Adnewyddadwy

Mckenzie Goodwin-Cotterill - ⁠Ynni Adnewyddadwy

Erin Price - Gwasanaeth Bwyty

Busnes@LlandrilloMenai

Robat Jones - Technegydd Cyfrifyddu⁠

Lowri Hughes - Technegydd Cyfrifyddu

Bydd mwy na 400 o gystadleuwyr yn cystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK mewn 47 o sgiliau gwahanol; mae'n ddathliad cenedlaethol o hyfforddiant galwedigaethol a thechnegol o'r radd flaenaf.

Dywedodd Prif Weithredwr WorldSkills UK, Ben Blackledge: “Mae ein cystadlaethau’n profi sgiliau dysgwyr yn erbyn safonau diwydiant byd-eang, gan ddarparu llwyfan pwerus i arddangos eu talentau. Dros ddau ddiwrnod dwys o gystadlu byddant yn meithrin sgiliau a hyder gwerthfawr a fydd yn rhoi hwb i'w gyrfaoedd ac yn gwneud economi'r DU yn fwy cystadleuol.

“Gyda chyflogwyr ledled y DU yn gweiddi am sgiliau o ansawdd uchel, dyma gyfle gwych i gannoedd o ddysgwyr ddangos eu bod yn barod am waith. Rwy'n edrych ymlaen i weld y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol ar waith.”

Bydd 80 o gystadleuwyr o bob cwr o'r DU yn cymryd rhan yn rownd derfynol genedlaethol SkillBuild, cystadleuaeth aml-grefft fwyaf y DU ar gyfer prentisiaid a hyfforddeion adeiladu.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date