Mae myfyrwyr ar y cwrs Gofal Anifeiliaid yng Ngholeg Glynllifon wedi bod wrthi’n ddiweddar yn casglu sbwriel o draeth Dinas Dinlle, fel rhan o brosiect i leihau ôl-troed carbon y coleg.
Newyddion Coleg Meirion-Dwyfor


Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr Celf Estynedig Lefel 3 a 4 Celf a Dylunio a myfyrwyr Lefel 3 ar y cwrs Diploma Estynedig ar y cwrs Celf a Dylunio'r cyfle, am y tro cyntaf ers cychwyn y pandemig i fynd ar ymweliad addysgol.

Mewn cydweithrediad â Chyngor Tref Cricieth, mae myfyrwyr celf ar ein campws ym Mhwllheli wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr genedlaethol Bywydau Creadigol.

Mae Canolfan Gofal Anifeiliaid gwerth £3m yng Ngholeg Glynllifon wedi ei hagor yn swyddogol gan Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd

Mae myfyrwyr ar ein cwrs Gofal Plant ym Mhwllheli wedi cwblhau taith gerdded noddedig o’r Coleg i Lanbedrog er mwyn codi arian i Blant mewn Angen.

Aeth myfyrwyr o'r adrannau Drama a Saesneg am drip theatr yn ystod ein wythnos ddarllen cyn hanner tymor.

Mae myfyrwyr iaith ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli wedi ymuno gyda myfyrwyr o Bangladesh i fynd i'r afael gyda phrosiect newydd a chyffrous ar newid hinsawdd.

Yn ddiweddar, cafodd Miriam Margaret Jones, sydd yn ddarlithydd dylunio 3d yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, ei chomisiynu i greu Baton ar gyfer dathliadau Parc Cenedlaethol Eryri yn 70 oed.

Miriam Elin Sautin o Lanbedrog ym Mhen Llŷn yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2020-21.

Yn ddiweddar mi gafodd myfyrwyr Lefel A ar gwrs Y Gyfraith, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth y cyfle i wrando ac i ddysgu gan gyn Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones mewn sesiwn ar-lein.