Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn fyfyrwraig lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn cychwyn busnes yng nghanol y pandemig

Mae Alaw Mared Jones, sydd yn gyn-fyfyrwraig lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, wedi cychwyn busnes ffitrwydd Coached by Alaw yn ystod y pandemig.

Astudiodd Alaw, yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, lefel A mewn Bioleg, Seicoleg a Chwaraeon, lle derbyniodd raddau AAA*, cyn symud ymlaen i astudio gradd mewn Ffisiotherapi (BSc) ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Alaw Mared Jones.

“Yn y cyfnod clo, dw i’n meddwl fel llawer, roeddwn wedi dechrau diflasu. Roeddwn i’n lwcus ofnadwy o gael benthyg offer codi pwysau gan gampfa Yard 6, felly wrth wella fy ffitrwydd ar y patio tu allan, roeddwn i’n dechrau mynd yn fwy chwilfrydig am y byd ffitrwydd!”

Ychwanegodd

“Ar ôl cymhwyso fel hyfforddwr ar gwrs ar-lein, dechreuais weithio mwy neu lai yn syth ym mis Mehefin ar ôl hysbysu’r cwmni ar-lein. Roeddwn i fflat out trwy’r haf!! Codi am pum bob bore i ddechrau gweithio am 6 tan 8 pob nos”.

Mae Coached by Alaw yn gwmni hyfforddi ffitrwydd ar-lein sydd yn cynnig cyrsiau cynyddu ffitrwydd, a rhaglenni ffitrwydd wedi eu teilwra. Am fwy o wybodaeth cliciwch YMA.

Dywedodd Bryn Hughes Parry, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion-Dwyfor.

“Mae gweld ein cyn myfyrwyr yn llwyddo, a hynny mewn amgylchiadau heriol yn wych. Fel un sydd wedi gweithio’n agos gyda phobol ifanc yn ystod y pandemig, dwi’n gwybod bod pethau wedi bod yn anodd. Mae gweld bod Alaw wedi troi sefyllfa anodd yn gyfle iddi rannu ei arbenigedd gyda’i chyfoedion yn wych.”

Am fwy o wybodaeth am holl gyrsiau Lefel-A Coleg Meirion-Dwyfor, cliciwch YMA.

Alaw, originally from Penrhyndeudraeth, studied A-levels in Biology, Psychology and Sport at Pwllheli, where she received AAA * grades, before going on to study for a degree in Physiotherapy (BSc) at Cardiff University.

Alaw Mared Jones said: “During lockdown, like many, I had started to get bored. I was extremely lucky to be able to borrow weights from Yard 6 gym. So while improving my fitness on the outside patio, I was starting to get more curious about the fitness world as a whole.

"After qualifying as an instructor online, I started the company almost immediately. I was flat out all summer! I was getting up at at 5am every morning to start work at 6am. I then worked until 8pm every night.”

‘Coached by Alaw’ is an online fitness training company offering fitness augmentation courses, and tailored fitness programs. For more information click HERE.

Bryn Hughes Parry, assistant principal of Coleg Meirion-Dwyfor, said: “Seeing our former students succeed in challenging circumstances is great. As someone who has worked closely with young people during the pandemic, I know that things have been difficult. Seeing Alaw turn a difficult situation into an opportunity for her to share her expertise with her peers, is fantastic.”

For more information about our A-level courses click HERE