Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Celf CMD yn y ras am wobr genedlaethol

Mewn cydweithrediad â Chyngor Tref Cricieth, mae myfyrwyr celf ar ein campws ym Mhwllheli wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr genedlaethol Bywydau Creadigol.

Mae cyfanswm o 31 o grwpiau creadigol wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Bywydau Creadigol 2021, gan gynnwys Cricieth Creadigol. Dewisir enillydd o Loegr, Iwerddon / Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.

Ffion Gwyn, tiwtor celf CMD ym Mhwllheli fu’n gyfrifol am gynorthwyo grŵp o ddeg myfyriwr celf o Goleg Meirion-Dwyfor i beintio’r feinciau.

Dywedodd Ffion Gwyn.

“Ymgynghorwyd â'r gymuned mewn digwyddiad ar-lein ac mae'r dyluniadau cymhleth sy'n deillio o hyn yn seiliedig ar straeon hynod ddiddorol, enwau lleoedd a hanes a thraddodiadau lleol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y straeon trwy sganio codau QR ar y ddwy fainc. Mae'r rhain wedi'u cysylltu â gwefan Casgliad y Werin gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sy'n dangos mwy o luniau, paentiadau a gwybodaeth am brosiect y Cyngor Tref yr enwau, chwedlau, caneuon, sydd wedi eu casglu gan yr hanesydd lleol Robert Cadwalader”

Ychwanegodd

“Mae'r meinciau'n lliwgar a bywiog, ac yn adlewyrchu gwefr a balchder y myfyrwyr a'u paentiodd nhw. Mae’r meinciau wedi profi’n ysbrydoliaeth, wedi sbarduno sgyrsiau a dod â straeon a lleoedd unigryw Cricieth yn fyw i bawb.”

Dywedodd Mirain Llwyd Roberts, Cydlynydd Prosiect Pontio’r Cenedlaethau

“Rwyf wedi fy rhyfeddu gan yr ymatebion i’r meinciau. Rydyn ni'n gobeithio, yn dilyn blwyddyn o gyfyngiadau a bod ar wahân, y bydd y meinciau hyn yn dod â phobl ynghyd ac yn helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd.”

Mae modd i chi bleidleisio YMA