Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Llwybrau Byw a Gwaith Glynllifon yn paratoi am y Nadolig.

Gyda’r Nadolig yn prysur agosáu, mae myfyrwyr ar ein cwrs Llwybrau Byw a Gwaith yng Ngholeg Glynllifon wedi bod yn brysur iawn yn darparu’r coleg i ddathliadau’r ŵyl.

Aeth criw o’r adran gyda chymorth parod staff a myfyrwyr o’r adran Goedwigaeth i ddewis coeden oedd wedi tyfu ar stad y coleg. Bu’r dewis yn anodd, ond wedi tipyn o anghytuno, dewiswyd coeden fawreddog fydd yn sefyll yn falch yn yr adran am yr wythnosau nesaf.

Er mwyn rhoi chware teg i’r goeden, ac er mwyn ei haddurno’n iawn, aeth y myfyrwyr wedyn ymlaen i siopa am addurniadau haeddiannol ar gyfer y goeden.

Dywedodd Cara Jones, aelod staff yn adran Llwybrau Byw a Gwaith yng Nglynllifon.

“Mae’n hynod o bwysig ein bod ni fel adran yn dathlu’r Nadolig drwy osod cyfrifoldeb ar ein myfyrwyr i drefnu ac i fod yn ganolog yn yr holl benderfyniadau. Mae’r broses o gael mynd lawr i’r adran goedwigaeth a chael dewis coeden, cyn mynd ymlaen i siopa am addurniadau yn rhan hynod o bwysig yn ein gwaith o godi hyder a chodi dealltwriaeth ein myfyrwyr.”

Ychwanegodd

“Mae cyfnod y Nadolig yn arbennig iawn yn ein hadran ni, mae’r myfyrwyr yn edrych ymlaen yn fawr iawn pob blwyddyn. Nadolig Llawen i chi.”