Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Celf CMD Dolgellau yn ymweld â Chaerdydd a Lerpwl

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr Celf Estynedig Lefel 3 a 4 Celf a Dylunio a myfyrwyr Lefel 3 ar y cwrs Diploma Estynedig ar y cwrs Celf a Dylunio'r cyfle, am y tro cyntaf ers cychwyn y pandemig i fynd ar ymweliad addysgol.

Yn ystod Tachwedd 16 ac 17 ymwelodd y myfyrwyr a TATE Modern ac Amgueddfa Lerpwl, cyn symud ymlaen i ymweld ag adran Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Metropolitiadd Caerdydd.

Yn ystod yr ymweliad a Lerpwl, cafodd y myfyrwyr gyfle anhygoel i ymweld â thrawstoriad gwych o gelf a ffotograffiaeth fodern.

Wrth ymweld â Chaerdydd, cafodd y myfyrwyr flas o’r hyn sydd gan ysgolion celf i’w cynnig mewn prifysgolion, yn cynnwys y math o adnoddau a chyfleoedd sydd ar gael o ddilyn cwrs gradd yn y meysydd celfyddydol.

Tra yn y brif ddinas, cafodd y myfyrwyr gyfle i ymweld ag Amgueddfa Cymru er mwyn gweld un o’r casgliadau celf bwysicaf Ewrop, gan gynnwys arddangosfa “Swaps” gan un o ffotograffwyr enwocaf Cymru, David Hurn.

Dywedodd Martin J Evans, Pennaeth Adran Celf, Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau.

“Roedd yn wych o'r diwedd gallu cael myfyrwyr allan o’r coleg, i fod yn dyst i gelf a dylunio o'r radd flaenaf. Mae teithiau fel hyn yn hanfodol ar gyfer gwaith cwrs celf a dylunio, ac i roi profiad i fyfyrwyr o gampysau prifysgol ar adeg pan maen nhw'n dechrau meddwl am eu dyfodol”#

Dywedodd Angharad Love, myfyriwr ar gwrs Diploma Estynedig L3 mewn Celf a Dylunio,

"Roedd ymweld â Prifysgol Caerdydd Met yn daith bwysig a gwerthfawr iawn. Yn fuddiol i wybod am brifysgolion a'r hyn sydd i'w ddisgwyl."

"Roedd y daith i TATE Lerpwl yn brofiad gwych er mwyn edrych ar ystod eang o gelf”

Ewch i'n gwefan i ddysgu mwy am y cyrsiau sydd gennym yn y coleg YMA