Myfyrwyr Lefel A Pwllheli yn ymweld a gwersyll Glan-llyn
Ar fore dydd Mercher y 24ain o Dachwedd, neidiodd 16 o griw Lefel A Cymraeg Pwllheli ar fws i Wersyll yr Urdd, Glan-llyn.
Cawsant dri diwrnod llawn darlithoedd ar amryw bynciau'r cwrs safon uwch gan ddarlithwyr Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn ogystal â chyfranwyr eraill. Profiad gwerthfawr i griw'r flwyddyn gyntaf oedd cyfarfod Huw Garmon, actor y prif gymeriad yn y ffilm, Hedd Wyn, a chael clywed hanesion a blaenoriaethau'r criw wrth ffilmio.
Cafodd criw yr ail flwyddyn flas ar sesiwn Menna Baines ar Un Nos Ola Leuad, a'r drafodaeth ar elfennau hunangofiannol yr awdur, Caradog Prichard, yn y nofel. Dywedodd rhai o ferched y flwyddyn gyntaf am y profiad,
“Mae hi wedi bod yn braf cael darlithoedd gan arbeniwyr a rhai o’r beirdd eu hunain a chlywed eu hymateb nhw i’r cerddi; ac hefyd cael cymdeithasu a mwynhau’r gweithgareddau.”
Cawsant hwyl ar gystadlu yn y talwrn, ac wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored a than do, ond roedd digon o gwyno am dymheredd Llyn Tegid! Aethpwyd hefyd ar daith i gartref y Prifardd Hedd Wyn yn yr Ysgwrn, Trawsfynydd.
Dywedodd Gruffydd Rhys Davies, tiwtor Lefel A Cymraeg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Pwllheli.
“Braint oedd cael mynd a’n myfyrwyr i Lan-llyn, mae cynnig y math yma o brofiadau i’n myfyrwyr yn ganolog i waith ac i genhadaeth y Coleg. Mae cael gweld ein myfyrwyr yn mwynhau ac yn dysgu gan rhai o brif ysgolheigion yn eu maes yn codi calon, yn arbennig wedi bron i ddwy flynedd anodd. Diolch i Brifysgol Bangor am y cyfle gwych hwn”
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.
E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk
Gwefan: www.gllm.ac.uk/cy