Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Darlithydd Celf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn y ras am wobr genedlaethol.

Mae Ffion Gwyn, sydd yn ddarlithydd Celf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Pwllheli, wedi ei henwebu ar gyfer gwobr celf genedlaethol Hearts for the Arts.

Mae’r wobr Hearts of the Arts yn cael ei redeg gan Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau, yr elusen sydd yn gweithio i weld mwy o gelf gymunedol, weledol yn ein gwlad.

Cafodd Ffion ei henwebu am ei gwaith yn darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig i ystod o brosiectau creadigol ac arloesol, gan gyfrannu’n aruthrol at les cymuned Cricieth yn ystod cyfnod y pandemig.

Fel rhan o’r prosiect, bu Ffion yn gweithio ar amryw o brosiectau creadigol amrywiol yn y dref, oedd yn cynnwys, Pont yr Enfys, hel atgofion am hen chwedlau’r ardal, a meinciau cyfeillgarwch ar y cyd gyda rhai o fyfyrwyr celf Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli.

Dywedodd beirniaid y gystadleuaeth, Hearts for the Arts.

“Mae angerdd y Ffion am y celfyddydau a diwylliant yn amlwg. Mae hi’n neilltuo amser ac egni i’r celfyddydau a diwylliant, gan ddangos arweiniad a dealltwriaeth o bŵer ac effaith y celfyddydau a diwylliant ar gymunedau.”

Ychwanegodd,

“Mae’n amlwg o enwebiad Ffion ei bod hi wedi bod yn hynod weithgar yn cefnogi’r ardal i ddefnyddio diwylliant a’r celfyddydau i ddod â phobl ynghyd.”

Dywedodd Ffion Gwyn, darlithydd Lefel A Celf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Pwllheli.

“Mae’n bleser ac yn anrhydedd i mi fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon sy’n deyrnged i waith anhygoel ac ymrwymiad aelodau o’n cymuned, o’r ifanc i’r hen, mewn cymaint o brosiectau cofiadwy. Rydym yn byw mewn cyfnod digynsail ac mae’n wych gallu estyn allan trwy ein mentrau creadigol amrywiol i gynnwys cannoedd yn ein cymuned ddwyieithog. Mae hyn wedi rhoi hwb i les pob un ohonom.”

Dywedodd Bryn Hughes-Parry, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion-Dwyfor Pwllheli.

“Rydym fel coleg yn hynod o falch o lwyddiant Ffion, yn arbennig yn y modd y mae hi’n cynnig profiadau i fyfyrwyr y coleg i weithio gyda hi a’r prosiectau celf gymunedol. Mae hyn yn brawf pellach i unrhyw un sydd gyda diddordeb i ddod yma i astudio gyda ni, bod ein hymagwedd i addysg yn un gyfannol, ac yn cynnig ystod eang, wahanol o brofiadau i’n myfyrwyr. Da iawn ti Ffion, mae’r coleg yn falch iawn o dy lwyddiant.”

I wybod mwy am gyrsiau Lefel A yn y coleg, cliciwch YMA