Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Adeiladwaith CMD Dolgellau, yn cystadlu yn nghystadleuaeth Sgiliau Cymru am y tro cyntaf mewn dwy flynedd.

Yn ddiweddar, bu rhai o fyfyrwyr adran adeiladwaith yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ar safle Dolgellau, yn cystadlu yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, wedi bwlch o ddwy flynedd, yn sgil y pandemig byd-eang.

Yn wahanol i’r arfer, bu rhaid i’r holl gystadleuwyr aros ar eu safleoedd yn hytrach na theithio i fan canolog, fel sydd yn arferol wrth gystadlu.

Mae Sgiliau Cymru yn cefnogi pobl ifanc ledled Cymru i gyflawni rhagoriaeth. Drwy gefnogi dysgu galwedigaethol drwy Gystadlaethau Sgiliau a’r fenter Troi Eich Llaw, i helpu annog pobl ifanc i ragori ym myd gwaith.

Dyma’r myfyrwyr oedd yn cystadlu yn rownd gyntaf (Gogledd Cymru). Joseff Jones a Be Sandersn yn yr adran Gwaith Coed, Tiffany Baker yn yr adran Plymio, Jac Ashford a Meirion Jones yn yr adran Gwaith Brics a Jay Ashford a Celt Jones yn yr adran Plastro.

Dywedodd Marius Jones, Pennaeth Adran Adeiladwaith a Pheirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

“Mae gan ein hadran hanes hir ac anrhydeddus iawn o gystadlu yn nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, gyda rhai yn mynd ymlaen i ennill ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae cael gweld ein myfyrwyr yn cystadlu unwaith eto, wedi cyfnod anodd iawn wirioneddol yn codi ein calon, fel adran. Pob lwc i chi! Mae’r holl goleg yn eich cefnogi.”

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a chodi eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Ariannur gan Lywodraeth Cymru ac eu rhedeg gan rwydwaith pwrpasol o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr,ac mae'n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sydd wedi’u halinio â chystadlaethau WorldSkills ac anghenion economi Cymru. Mae'r cystadleuaeth yn rhad ac am ddim ac maent yn rhedeg rhwng mis Ionawr a mis Mawrth bob blwyddyn.