Myfyrwyr Gofal Anifeiliaid Glynllifon yn casglu sbwriel fel rhan o’u gwaith i leihau gwastraff
Mae myfyrwyr ar y cwrs Gofal Anifeiliaid yng Ngholeg Glynllifon wedi bod wrthi’n ddiweddar yn casglu sbwriel o draeth Dinas Dinlle, fel rhan o brosiect i leihau ôl-troed carbon y coleg.
Bu 30 o fyfyrwyr wrthi’n brysur yn casglu sbwriel oedd wedi ei adael, neu wedi ei olchi ar y traeth poblogaidd, oddeutu 2 filltir o gampws Coleg Glynllifon.
Cafwyd benthyg offer pigo sbwriel a bagiau gan Cadwch Gymru’n Daclus, yn ogystal â chymorth ymarferol o sut i ddelio gyda’r gwastraff yn ddiogel.
Dywedodd Kate Jones, Cynorthwyydd ar y cwrs Gofal Anifeiliaid.
“Cawsom ystod o wahanol eitemau, o bêl-droed, hosan, i ddarnau bach o rwyd pysgod, caniau diod, gwellt yfed, poteli a darnau bach o blastig. Hoff eitem Anna ein tiwtor oedd arwydd ffordd wedi'i olchi i fyny ar y traeth. Mae’n hynod o bwysig bod ein myfyrwyr yn cael y math yma o gyfle i weld effaith gwastraff ar ein hamgylchedd.”
Ychwanegodd
“Diolch i Daniel Griffith o Cadwch Gymru’n Daclus am yr offer, ar holl gymorth ymarferol, gobeithio y byddwn yn gallu cyd-weithio gyda nhw’n eto’n fuan”
Am fwy o wybodaeth am holl gyrsiau'r coleg, ewch i'n gwefan YMA