Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Lefel A Pwllheli a Dolgellau yn cyd-weithio ar brosiect monitor Co2 gyda Phrifysgol Aberystwyth.

Mae myfyrwyr Cyfrifiadureg Lefel A Pwllheli a Dolgellau yn gweithio ar brosiect ar y cyd gyda Phrifysgol Aberystwyth yn creu a rhaglennu monitorau Co2 drwy ddefnyddio 'Byrddau Cylched Arduino' i roi mewn ystafelloedd dysgu ledled Cymru.

Yn ystod y pandemic COVID19, mae llawer o sylw wedi bod i ansawdd aer a lledaeniad y clefyd mewn lleoedd wedi'u hawyru'n wael.

Mesur da o lefelau awyru mewn man caeedig yw lefel y carbon deuocsid (CO2). Er mwyn mesur lefelau CO2 mewn ystafelloedd dosbarth a darlithfeydd, daeth myfyrwyr Lefel A Cyfrifiadureg Pwllheli a Dolgellau fel rhan o Gynllun Addysg Peirianneg Cymru i gyd-weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth er mwyn adeiladu, rhaglennu a phrofi monitor CO2 ar gyfer gwerthuso ansawdd aer, fydd gobeithio yn cael eu defnyddio mewn ystafelloedd dysgu ar draw Cymru.

Dywedodd Huw Eurwyn Hughes Darlithydd Cyfrifiaduron Gwyddonol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

“Erbyn hyn, mae ein dealltwriaeth am y modd y mae’r feirws yn lledaenu wedi gwella’n sylweddol ers y dyddiau cynnar. Nid oes amheuaeth bellach fod ystafelloedd sydd wedi eu hawyru’n gywir yn ffordd hynod o effeithiol o arafu’r feirws.”

Ychwanegodd

“Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol i’n plant, a’n pobol ifanc, mae creu gofodau dysgu diogel yn hynod o bwysig. Rydym yn ofnadwy o falch bod ein myfyrwyr wedi cyd-weithio ar y prosiect pwysig hwn. Mae holl adrannau Lefel A y Coleg yn ymfalchïo yn llwyddiant ein myfyrwyr. Bydd y gwaith hwn yn sicr o hwyluso holl ysgolion a cholegau Cymru wrth iddynt geisio parhau i gynnig addysg wyneb wrth wyneb yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”

Bydd y ddyfais orffenedig yn isel o ran cost, ac yn hawdd i’w ddefnyddio.

Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau Lefel A - https://www.gllm.ac.uk/courses...