Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Buddsoddiad mewn STEM yn dod â labordai coleg o'r radd flaenaf i Ddolgellau a Phwllheli

Mae labordai newydd wedi cael eu sefydlu ar gampysau Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau a Phwllheli, fel rhan o brosiect £1.9m i wella cyfleusterau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ar gyfer myfyrwyr coleg.

Derbyniodd Grŵp Llandrillo Menai gyllid gan Magnox/Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) tuag at brosiect uchelgeisiol i ddiweddaru 10 o labordai mewn tri o'i gampysau.

Mae'r £386,034 gan Magnox/NDA yn cael ei fuddsoddi gan brosiect LabSTEM er mwyn moderneiddio adnoddau yn Nolgellau, Pwllheli a Llangefni. Mae gweddill y cyllid wedi'i ddarparu gan Raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a Grŵp Llandrillo Menai.

Mae tri labordy gwyddoniaeth ar safle Dolgellau a Phwllheli wedi cael eu hadnewyddu a'u uwchraddio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf. Bydd labordy arall yn cael ei greu ar gampws Marian Mawr yn Nolgellau gyda chyfleusterau roboteg a pheirianneg drydanol.

Mae gwelliannau tebyg yn yr arfaeth ar gampws Coleg Menai yn Llangefni ac mae cynlluniau eraill, fel cryfhau'r cwricwlwm a chydweithio gyda sefydliadau eraill, eisoes ar droed.

Nod LabSTEM yw gwella'r amgylchedd a'r profiad dysgu, denu mwy o bobl ifanc 16 oed - yn enwedig ferched - i astudio Gwyddoniaeth a Pheirianneg, ac ymestyn y cwricwlwm STEM i gynnwys pynciau megis Peirianneg Drydanol/Fecanyddol a Roboteg/Electroneg.

Yn ogystal â rhoi adnoddau o safon fyd eang i ddysgwyr, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad STEM yng ngogledd orllewin Cymru trwy roi lleoliadau ar gyfer gweithgareddau gan sefydliadau eraill a chwarae rhan mewn prosiectau STEM ar lefel ranbarthol.

Meddai Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai, yn ystod agoriad swyddogol y labordai yn Nolgellau:

"Bydd LabSTEM yn rhoi'r adnoddau a'r cyfleoedd gorau bosibl i fyfyrwyr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai. Bydd hyn yn dod â budd sylweddol i ddysgwyr, cyflogwyr a'r economi'n ehangach.

"Mae'r galw am bobl ifanc sydd wedi astudio pynciau STEM hyd at Lefel 3 ac uwch, boed hynny'n academaidd neu'n alwedigaethol, yn tyfu a disgwylir iddo dyfu ymhellach. Credir y bydd 75% o'r holl swyddi yn y DU dros y degawd nesaf yn gofyn am wybodaeth a sgiliau STEM."

Ychwanegodd: "Mae'r gofyn am gyflogeion ym maes STEM yr un mor gryf yma yng Ngogledd Cymru. Er fod datblygiadau fel Wylfa Newydd ar stop am y tro, mae nifer o ddatblygiadau ynni eraill ar y gweill o fewn y rhanbarth.

"Bydd y prosiect moderneiddio hwn yn sicrhau bod gan ein holl ddysgwyr ym maes STEM y cyfleusterau diweddaraf i gefnogi eu hastudiaethau a rhoi iddynt y sgiliau angenrheidiol i fedru manteisio ar yrfaoedd llwyddiannus yn lleol.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Magnox/NDA a Llywodraeth Cymru am eu buddsoddiad, ac i'n holl bartneriaid yn y sector am gefnogi ein gweledigaeth."

Meddai Simon Napper, Rheolwr Cysylltiadau Rhan-ddeiliaid a Sosio-Economeg NDA:

“Mae NDA yn awyddus i annog a datblygu addysg a sgiliau, isadeiledd cymdeithasol a chyflogaeth gynaliadwy.

“Mae'r prosiect yn anelu at wneud pynciau STEM yn ddeniadol i bawb a byddem yn arbennig o falch o weld mwy o ferched yn cymryd rhan. Mae'r prosiect yn cyd-fynd ag ethos NDA o fuddsoddi mewn addysg a sgiliau er mwyn cyfrannu at gyflogaeth gynaliadwy.

“Gyda Trawsfynydd wedi'i ddynodi fel y prif safle ar gyfer Rhaglen Ddadgomisiynu Magnox, a nifer o gynlluniau yng Ngogledd Cymru i greu cyflogaeth o ansawdd, mae hwn yn gyfle delfrydol i sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol barhau i gael gwaith yn y rhanbarth.”

DIWEDD

Cyswllt: Elliw Williams, 07766 335612 / elliw@atompr.com