Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyflogwyr

Yma yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn helpu busnesau i gryfhau drwy ddatblygu sgiliau, cefnogi recriwtio, a darparu hyfforddiant wedi'i deilwra. P'un a ydych chi'n fasnachwr unigol, neu'n gyflogwr sy'n uwchsgilio'ch tîm presennol, yn recriwtio talent newydd, neu'n archwilio prentisiaethau, rydym yma i gefnogi eich sefydliad bob cam o'r ffordd.

Sut Rydym yn Cefnogi Cyflogwyr a Pherchnogion Busnesau

Rydym yn darparu hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar gyflogwyr yn ein tri choleg, Coleg Llandrillo, Coleg Menai, a Choleg Meirion-Dwyfor, ac yn ein canolfannau arbenigol yn Llanelwy, Bangor, Llangefni a Glynllifon, gan gynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau hyblyg:

  • Cyrsiau byr a micro-ddysgu i ddiwallu anghenion hyfforddi uniongyrchol
  • Datblygiad proffesiynol rhan-amser wedi'i deilwra o amgylch ymrwymiadau gwaith
  • Rhaglenni ar bob lefel, o gyrsiau cyflwyno hyd at gymwysterau lefel gradd
  • Prentisiaethau a hyfforddiant seiliedig ar waith i adeiladu gweithlu'r dyfodol

P'un a ydych chi'n fusnes bach neu'n sefydliad mawr, rydym yn darparu'r sgiliau, yr arbenigedd a'r gefnogaeth i'ch helpu i ffynnu mewn byd cystadleuol.

Baner fechan gyda logo Business@
Dau berson mewn gweithdy

Prentisiaethau

Fframwaith o gymwysterau ydy prentisiaeth, sy'n cynnwys cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig, cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a chyfathrebu, gwybodaeth ymarferol am ddiwydiant a sgiliau perthnasol i'r gweithle.

Dewch i wybod mwy
Cwrs cymorth cyntaf

Cyrsiau byr

Rydym yn cynnig dewis helaeth o gyrsiau busnes a chyrsiau arbenigol byr, nad ydynt fel arfer yn para mwy na 5 diwrnod.

Dewch i wybod mwy
Pobl yn defnyddio gliniadur

Hyfforddiant rhan-amser

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau i gyflogwyr a pherchnogion busnes, yn cynnwys hyfforddiant perthnasol i'w diwydiant a chyrsiau ar gyfer datblygiad proffesiynol, a gallwch ddilyn y cyrsiau yn rhan-amser ochr yn ochr ag ymrwymiadau eich gweithle.

Dewch i wybod mwy

I archebu, cysylltwch â ni ar 08445 460 460 neu busnes@gllm.ac.uk. Gellir archebu a thalu am nifer o'n cyrsiau ar-lein.

Pobl mewn ffatri

Gwasanaethau Arbenigol

Cyngor a chefnogaeth arbenigol i'ch helpu i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol, o weithgynhyrchu i fwyd ac i ynni.

Dewch i wybod mwy
Person yn dal cyfrifiannell

Ariannu

Mae gennym wahanol fathau o gyfleoedd cyllido i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr i hyfforddi

Dewch i wybod mwy
Pobl yn gweithio ar brosiect gyda'u gilydd

Pam gweithio gyda ni

Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ein tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yw'r pwynt cyswllt cyntaf i fusnesau ledled Gogledd Cymru.

Dewch i wybod mwy
Person yn defnyddio gliniadur

Cysylltwch â ni

Gall ein tîm o Ymgynghorwyr Datblygu Busnes ymroddedig eich cefnogi gyda'ch anghenion hyfforddi.

Dewch i wybod mwy

Sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw

Logo Llaeth y Llan
Logo Nuclear Restoration Service
BIP Betsi Cadwaladr Logo
Logo RWE
Logo Joloda Hydraroll
Logo Engie
Logo Antur Waunfawr
Logo Babcock
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date