Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Erin Pennant Jones o Rydymain, Dolgellau a Cynwal ap Myrddin o Lwyndyrys, Pwllheli wedi derbyn ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddiweddar.
Newyddion Coleg Meirion-Dwyfor


Yn ddiweddar cafodd Lili Boyd Pickavance, sydd yn fyfyriwr Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, gyfle i fynychu Ysgol Haf LEDLET (Lord Edmund Davies Legal Education Trust).

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr Lefel A Seicoleg Coleg Meirion-Dwyfor fynediad i Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiad Prifysgol Bangor, ar ôl cwblhau wythnos o leoliad gwaith yno.

Unwaith eto eleni mae dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn dathlu wedi iddynt dderbyn canlyniadau Lefel A rhagorol.

Mae Wendy Hinchey, sydd yn diwtor Lefel-A Saesneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli a Dolgellau wedi ennill gwobr genedlaethol gan Brifysgol De Cymru. Enillodd Wendy yn y categori ‘Cefnogi Dilyniant i Addysg Uwch’ mewn seremoni mawreddog ar gampws Treforest y brifysgol.

Yn ystod 2021 penderfynodd Sioned Roberts o Borthmadog a Lois Thomas o Finffordd ddilyn cwrs Mynediad i Addysg Uwch gan fod galw cynyddol am nyrsys yng Nghymru.

Mae Ffion Pugh, sy'n astudio ar gyfer Diploma L3 UAL mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, wedi ei dewis allan o 500 o ymgeiswyr o golegau ledled y wlad i arddangos ei gwaith yn Origins Creatives yn Llundain. Roedd posteri “Lockdown” Ffion yn wirioneddol yn sefyll allan, ar unig waith dwyieithog yn yr arddangosfa.

Rhagfynegir y bydd y twf yn y diwydiannau morol a gwasanaethau morwrol yn tyfu i fod yn werth £25 biliwn y flwyddyn yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac mae Coleg Meirion-Dwyfor yn falch iawn o gyhoeddi datblygiadau newydd a chyffrous yn ei gyfleusterau o'r radd flaenaf yn safle Hafan ym Mhwllheli.

Mae Ffion Pugh, 17 oed wedi cael ei dewis i arddangos eu gwaith yn Origins Creatives, a gynhelir ym Mragdy Truman ym mis Gorffennaf.

Mae campysau Grŵp Llandrillo Menai yn Nolgellau a Phwllheli'n paratoi i groesawu cannoedd o bobl leol i'w Digwyddiadau Ymgysylltu â'r Gymuned ddydd Sadwrn 11 Mehefin a dydd Sadwrn 18 Mehefin.