Coleg Meirion-Dwyfor, y dewis naturiol i nifer cynyddol o bobl sydd eisiau dilyn cwrs addysg uwch.
Gyda chostau byw yn cynyddu a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar anghenion lleol, mae dilyn cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn dod yn ddewis poblogaidd i lawer o drigolion gogledd-orllewin Cymru.
Mae Coleg Meirion-Dwyfor yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn meysydd penodol, ac mae'r rhain yn cynnwys
- BA Anrh. ym maes Rheoli Busnes
- Gradd Sylfaen ym maes Rheoli Busnes
- Gradd Sylfaen mewn Gwyddor Chwaraeon (Awyr Agored)
- BA Anrh. ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â llwybrau arbenigol ychwanegol
- Gradd Sylfaen ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- HNC mewn Peirianneg Gyffredinol
Meddai Bryn Hughes-Parry, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion-Dwyfor.
"Un o brif fanteision dod yma i ddilyn cwrs addysg uwch yw'r ffaith fod ein holl gyrsiau wedi'u gwreiddio’n llwyr yn ein cymunedau. Yn aml iawn, mae'r gwaith ymchwil a wneir yma ar ein cyrsiau gradd a'n cyrsiau addysg uwch yn diwallu anghenion y cymunedau hyn ac yn ymateb i'r heriau maen nhw'n eu hwynebu."
Enghraifft berffaith o hyn yw teitlau traethodau hir diweddar yr adran fusnes gan eu bod yn dangos yn glir bod yna gysylltiad agos rhwng y cwrs a gwead cymdeithasol yr ardal. Ymhlith y traethodau hyn roedd
- Ymchwil i effaith COVID-19 ar y diwydiant bwyd a diod yng Ngogledd Cymru (gyda Dolgellau’n cael sylw amlwg)
- Ymchwiliad i effaith y cyfryngau cymdeithasol ar fusnesau bach (defnyddiwyd nifer o fusnesau yn y Bermo ar gyfer y gwaith ymchwil)
- Ymchwiliad i ddirywiad y stryd fawr yng Ngogledd Cymru – gan ganolbwyntio ar y stryd fawr yn y Bermo a Wrecsam
- Ymchwil i effaith y coronafeirws ar y diwydiant twristiaeth yng Ngogledd Cymru (defnyddiwyd busnesau a defnyddwyr o Ddolgellau, Blaenau Ffestiniog a'r Bermo ar gyfer yr ymchwil)
Datblygiad cyffrous a lansiwyd yn ystod yr haf oedd partneriaeth gweithio ac astudio newydd rhwng y Coleg a'r Urdd. Ochr yn ochr â'u hastudiaethau bydd myfyrwyr y cwrs Gradd Sylfaen mewn Gweithgareddau Awyr Agored yn cael cyfle i wneud cais i fynd ar gynllun hyfforddi yng Nglan-llyn. Dyma gyfle gwych i'r myfyrwyr gyfuno'u hastudiaethau academaidd â hyfforddiant ymarferol yng Nghanolfan Awyr Agored Glan-llyn gan feithrin sgiliau gwaith pwysig ac ennill cymwysterau ychwanegol ym maes chwaraeon awyr agored.
Meddai Siân Lloyd o Lan-llyn:
"Fel estyniad naturiol i'r cwrs gradd, yr hyn yr hoffem ei gynnig drwy'r Coleg i'r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb gwirioneddol mewn gweithgareddau awyr agored yw'r cyfle i ennill cyflog a phrofiad am ddau ddiwrnod yr wythnos drwy weithio yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn."
Ychwanegodd
"Drwy feithrin sgiliau ac ennill cymwysterau ym maes gweithgareddau awyr agored bydd y myfyrwyr yn cael profiadau gwerth chweil yn ogystal â chyfle i roi'r theori maent yn ei ddysgu ar eu cwrs gradd ar waith mewn ffordd ymarferol. Bydd y myfyrwyr yn dechrau gweithio fel Hyfforddwyr Awyr Agored yn y ganolfan."
Mae'r gost yn ystyriaeth bwysig i lawer o'r myfyrwyr addysg uwch ar ein cwrs Iechyd a Gofal. Wrth i gostau byw gynyddu mae'n bosibl arbed miloedd o bunnau drwy fyw gartref a pheidio â gorfod talu'r ffioedd llety uchel sy'n wynebu'r myfyrwyr sy'n byw oddi cartref.
Meddai Maia Jones sy'n ddarlithydd ar y cyrsiau Iechyd a Gofal yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
"Er bod costau'n ystyriaeth bwysig i lawer o'r myfyrwyr sy'n dod yma i ddilyn cyrsiau addysg uwch, mae'r elfen leol yn eithriadol o bwysig hefyd. Ers y pandemig mae cynnydd wedi bod yn y nifer sy'n dangos diddordeb yn ein cyrsiau, a cheir pwyslais cynyddol ar y gymuned a'r elfen leol."
Ychwanegodd
"Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei gynnig yma yn y coleg. Rydym yn goleg sydd wedi'i wreiddio yn ein cymunedau gyda llawer o'r myfyrwyr yn dewis aros yma i weithio ar ôl graddio neu fynd ymlaen i ddilyn cyrsiau nyrsio neu fydwreigiaeth lle mae galw mawr am unigolion dwyieithog."
Meddai Sam Buffery sy'n fyfyriwr ar y cwrs HNC mewn Peirianneg Gyffredinol,
"Roedd dewis dod yma i Ddolgellau i wneud y cwrs HNC yn un hawdd i mi. Rydw i'n hogyn lleol ac rydw i'n nabod y staff a'r darlithwyr. Ro'n i hefyd eisiau aros yn fy nghartref felly roedd y dewis yn un hawdd. Ar ôl gorffen y cwrs rydw i'n gobeithio dilyn prentisiaeth. Mae'r cysylltiadau sydd gan yr adran beirianneg â chyflogwyr a busnesau lleol yn help mawr ac yn agor y drws i gyfleoedd newydd cyffrous. "