Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr CMD Lefel A yn Cael Mynediad i Ysgol Wyddoniaeth Prifysgol Bangor

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr Lefel A Seicoleg Coleg Meirion-Dwyfor fynediad i Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiad Prifysgol Bangor, ar ôl cwblhau wythnos o leoliad gwaith yno.

Roedd yr wythnos yn cynnwys ystod eang o weithgareddau pwrpasol: gan gynnwys amrywiaeth o ddarlithoedd, teithiau labordy, seminarau a thiwtorialau - i gyd wedi'u cynllunio i roi cipolwg o brofiad o fod yn fyfyriwr prifysgol ym Mangor.

Fe wnaeth Leah Rowlands a Hana Evans, sy’n fyfyrwyr Lefel A ar gampws Pwllheli Coleg Meirion-Dwyfor, fwynhau eu profiadau’n fawr.

Dywedodd Leah Rowlands: “Mae’r wythnos o brofiad gwaith ym Mhrifysgol Bangor wedi datblygu ymhellach fy nealltwriaeth o faes eang seicoleg. Rhoddodd y daith labordy agoriadol a ddarparwyd gan yr Athro Debbie Mills gipolwg gwirioneddol ar fywyd myfyriwr ym Mangor: sydd yn ymarferol, heriol ac unigryw.

“Cafodd gweithgareddau ymarferol fel darlith Dr Kami Koldewyn ar ‘yr hyn y mae’r llygaid yn ei ddweud wrthym am yr ymennydd’ sylw llawn pob myfyriwr, wrth i ni gael y cyfle i ddefnyddio’r dechnoleg sydd newydd ei datblygu ein hunain, a thrwy hynny datblygu ein dealltwriaeth o sut mae’r ymennydd. yn ymateb i wahanol ysgogiadau.”

“Roedd hyn yn gysylltiedig â darlith seicoleg a roddwyd gan Delyth Kerr, yn dangos sut mae technegau marchnata yn cael eu defnyddio, ar ôl ymchwil hir ar sut mae'r ymennydd yn cymryd i mewn ac yn ymateb i wahanol wybodaeth. Roedd hyn yn arbennig o ddiddorol i mi gan fy mod yn ceisio arbenigo mewn seicoleg defnyddwyr yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Rwy’n teimlo’n ddiolchgar iawn am y cyfle o fod wedi cymryd rhan yn yr wythnos profiad gwaith ym Mangor, ac yn ddiolchgar iawn i’r staff, yn enwedig Dr Emma Hughes-Parry, a wnaeth y profiad hwn yn un hawdd a phleserus”.

Gorffennodd Hana Evans: “Roedd yr wythnos yn llawn darlithoedd, seminarau a gweithgareddau diddorol, ac yn cynnwys teithiau o amgylch y campws a’r labordai. Cawsom wybod am feysydd cwnsela, seicoleg glinigol a seicoleg defnyddwyr, a hefyd astudiwyd effeithiau cyffuriau ar yr ymennydd. Roedd yn brofiad a ddangosodd lawer o wahanol lwybrau gyrfa seicoleg a hefyd yn rhoi cipolwg ar fywyd myfyriwr seicoleg ym Mangor.”

I gael rhagor o wybodaeth am ein holl gyrsiau Safon Uwch yn CMD, cliciwch ar y ddolen isod.

YMA