Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwledd y Beatles ac Othelo i fyfyrwyr Lefel A

Yn ddiweddar aeth myfyrwyr Cerdd, Lefel A Coleg Meirion-Dwyfor safle Pwllheli ar drip addysgol i Lerpwl i ddysgu mwy am waith y Beatles a Shakespeare.

Ymwelodd y myfyrwyr amgueddfa enwog y Beatles Story Museum yn Noc Albert yn y ddinas, cyn symud ymlaen i theatr y Playhouse i weld cynhyrchiad diweddar o Othelo perfformiad, oedd yn ddehongliad modern o ddrama Shakespeare gan gwmni theatr Frantic Collective.

Dywedodd Angharad Roberts-Williams, myfyriwr Cerdd a Drama yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

“Roeddwn i'n hoffi cael cerdded trwy'r gwahanol leoliadau yn yr amgueddfa, fel y Cavern Club a'r Yellow Submarine. Roedd hi'n ddiddorol cael gweld yr offerynnau yr oedd y band wedi eu chwarae a dod i wybod mwy am aelodau'r band.”

“Roedd y ddrama'n wych, ac yn hollol wahanol i un rhywbeth yr oeddwn i wedi ei weld o’r blaen. Roeddwn i'n hoffi pan oedd y cast yn defnyddio'r bwrdd pwl a waliau symudol y set er mwyn cyfleu teimladau'r cymeriadau. Roedd y defnydd o gerddoriaeth yn effeithiol hefyd, roedd yn fodern ac yn cyd-fynd gyda'r digwyddiadau ar y llwyfan.”

Dywedodd Gwenno Pritchard, darlithydd Cerdd a Drama yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

“Mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n cynnig cyfleoedd a phrofiadau tu allan i’r ystafell ddosbarth i’r myfyrwyr. Mae hynny’n rhan ganolog o ethos addysgol Coleg Meirion-Dwyfor, hynny yw, bod mynd a’n myfyrwyr allan i brofi celfyddyd yn rhan annatod o’r profiad o ddod yma i’r Coleg”

Os hoffech ddysgu mwy am ddarpariaeth Lefel A Coleg Meirion-Dwyfor, ewch i www.gllm.ac.uk