Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr Lefel A Y Gyfraith yn cael llwyddiant ar gynllun LEDLET

Yn ddiweddar cafodd Lili Boyd Pickavance, sydd yn fyfyriwr Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, gyfle i fynychu Ysgol Haf LEDLET (Lord Edmund Davies Legal Education Trust).

Mae Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund Davies, neu LEDLET yn fyr, yn elusen annibynnol a sefydlwyd yn 2013 i wasanaethu pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru neu sydd â chysylltiad â Chymru sydd â diddordeb mewn ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol.

Mae’r elusen yn cael ei rhedeg gan dîm o ymddiriedolwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd cyfreithiol, pob un â chysylltiadau â Chymru. Yn benodol, sefydlwyd LEDLET gyda'r nod o sicrhau na fyddai unrhyw un mewn cymdeithas yn dod i'r casgliad y byddai eu cefndir yn eu hatal rhag mynd i'r gyfraith.

Dywedodd Lili Boyd Pickavance.

“Eleni, ym Mis Gorffennaf cefais y fraint o wario wythnos yng Nghaerdydd ar raglen cynllun haf LEDLET. Mae’r rhaglen yn dewis 10 myfyrwyr blwyddyn 12 ar draws Cymru heb gefndir cyfreithiol na theulu yn y maes. “

“Cawsom gyfle i wrando ar gyflwyniadau gan athrawon o Adran Y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Eistedd i mewn ar achos mewn llys, ymweld â siambr APEX a chwestiynu bar gyfreithwyr.”

“Cefais gyfle i ymweld â Thŷ Hywel, lle mae cyfreithwyr Senedd Cymru’n gweithio, a dysgu am waith y Senedd, a’r pwerau sydd gan y Senedd i wneud cyfreithiau yng Nghymru.”

“Cyn gorffen gyda thaith tywys o gwmpas Llys y Goron yng Nghaerdydd a chael siarad gyda sawl barnwr am eu gwaith.”

“Roedd cael mynychu Ysgol Haf LEDLET yn brofiad unwaith mewn oes. Rwyf wedi dysgu llawer am y system gyfreithiol a’r gwahanol lwybrau i mewn i’r gyfraith. Rwy’n ddiolchgar iawn i LEDLET ac am adael i mi fod yn rhan o wythnos anhygoel.”

Dywedodd Louise Harding, Darlithydd y Gyfraith, Adran Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

“Mae hwn yn gyfle gwych i'r myfyrwyr ac yn darparu profiadau byth gofiadwy. Mae gyrfa yn y byd cyfreithiol yn gystadleuol dros ben ac yn cynnwys ystod eang iawn o opsiynau gyrfaol. Mae'r arbenigedd a'r gefnogaeth gan LEDLET yn amhrisiadwy ac rydw i'n hynod ddiolchgar i'r cynllun am roi'r fath gyfleoedd i'r myfyrwyr.”

Os hoffet ti ddysgu mwy am gyrsiau Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, clicia yma www.gllm.ac.uk