Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dau fyfyriwr yn derbyn ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Erin Pennant Jones o Rydymain, Dolgellau a Cynwal ap Myrddin o Lwyndyrys, Pwllheli wedi derbyn ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddiweddar.

Mae Erin, sydd newydd dderbyn ei lefel A mewn Hanes, Cymraeg, a’r Gyfraith o Goleg Meirion Dwyfor, Dolgellau, wedi ennill yr ysgoloriaeth i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Sefydlwyd Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2018 yn enw'r cyfreithiwr nodedig, yr Arglwydd Gwilym Prys Davies o Lanegryn, Meirionnydd. Mae’r ysgoloriaeth werth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd).

Meddai Erin, sy’n 18 oed, “Mae’n anrhydedd derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg yn enw'r Arglwydd Gwilym Prys Davies. Roedd yn ffigwr hynod o ddylanwadol ym maes y Gyfraith a’r Gymraeg yn fy ardal i ym Meirionnydd, a dros Gymru gyfan. Bydd yn fraint astudio rhan o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn yr un man ag astudiodd Gwilym Prys Davies.”

“Dwi hefyd mor ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg am y cymorth ariannol a fydd yn hwyluso fy nghyfnod yn y brifysgol dros y dair mlynedd nesaf.”

Fel menyw ifanc o gefn gwlad Cymru sy’n angerddol dros y Gymraeg, ac yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Dolgellau, mae Erin yn gobeithio dilyn gyrfa gyda’r heddlu yn y dyfodol,

Meddai, “Bydd astudio’r Gyfraith yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg yn fy ngalluogi i gael y sgiliau proffesiynol i weithio yn fy mamiaith yn y dyfodol. Gobeithio bydd hyn yn cael effaith bositif ar y gymuned i annog mwy o bobl i wneud yr un peth er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Mae Cynwal ap Myrddin, sydd newydd dderbyn ei lefel A mewn Hanes, Cymraeg ac Astudiaethau Busnes o Goleg Meirion Dwyfor, Pwllheli, Grŵp Llandrillo Menai, wedi ennill yr ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sefydlwyd Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Gyngor Gwynedd. Mae’n cael ei dyfarnu’n flynyddol i unigolyn sydd wedi ymgeisio am un o brif ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg. Mae’r ysgoloriaeth werth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd).

Meddai Cynwal, sy’n 18 oed, ac yn gyn-lysgennad Coleg Meirion-Dwyfor y Coleg Cymraeg, “Roeddwn yn falch iawn i glywed fy mod wedi ennill Ysgoloriaeth Cyngor Sir Gwynedd. Dwi’n edrych ymlaen at symud i Gaerdydd i astudio’r Gymraeg yn y brifysgol ac ymwneud â’r gymdeithas Gymraeg yno. Bydd yr arian yn gymorth mawr, felly dwi mor ddiolchgar i Gyngor Gwynedd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am yr ysgoloriaeth.”

Meddai’r Cynghorydd Beca Brown, aelod cabinet sy’n gyfrifol am Addysg ar Gyngor Gwynedd:“Llongyfarchiadau gwresog i Cynwal ap Myrddin ar sicrhau Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phob dymuniad da iddo ar ei astudiaethau yng Nghaerdydd. Fel Cyngor, rydym yn falch o gefnogi myfyrwyr o Wynedd sydd am astudio a datblygu eu gyrfaoedd drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn falch o fedru cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg ar y gwaith pwysig o hyrwyddo’r ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg.”

Fel aelod blaenllaw o’r gymuned ym Mhen Llŷn mae Cynwal yn gweithio’n rhan amser yng Nghanolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn, yn golofnydd ar bapur bro Eifionydd, Y Ffynnon, yn chwarae rygbi i dîm Pwllheli, ac yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Llangybi. Mae ennill yr ysgoloriaeth ar ran ei sir enedigol yn bwysig iawn iddo felly. Meddai:

“Mae cael fy magu mewn ardal Gymraeg fel Llŷn sydd a chymaint o fwrlwm diwylliannol wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth i mi feithrin fy niddordeb yn y Gymraeg a hanes fy ngwlad. Rwy’n frwdfrydig iawn i ehangu fy niddordeb a fy arbenigedd ar y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’r bwriad i ddychwelyd i fy ardal i weithio yn y dyfodol.”