Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Therapi Harddwch Dolgellau yn cymryd rhan mewn digwyddiad Iechyd Cymunedol.

Fel rhan o ddigwyddiad iechyd cymunedol yn Glan Wnion, Dolgellau yn ddiweddar, aeth myfyrwyr therapi harddwch Coleg Meirion-Dwyfor draw i gynnig triniaethau ewinedd i drigolion yr ardal.

Trefnwyd y digwyddiad ar ddydd Mawrth, Hydref 25 yng Nghanolfan Hamdden Glan Wnion, gyda dros 30 o sefydliadau lleol a chenedlaethol yn cynnig ystod eang o wasanaethau iechyd a gofal, a llesiant.

Roedd hwn yn ddigwyddiad am ddim, oedd yn cynnig gwasanaeth rhannu gwybodaeth, sgrinio iechyd, prawf pwysau gwaed, therapïau amgen, yoga cadair a llawer mwy.

Rhoddodd fyfyrwyr Therapi Harddwch Lefel 2 driniaeth dwylo bach a gwerthu tocynnau raffl. Y wobr oedd taleb anrheg gwerth £10.00 i'w gwario ar driniaethau therapi harddwch yn salon y coleg. Codwyd £38.60 i elusen Mind.

Dywedodd Jill Renshaw, darlithydd Therapi Harddwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau.

“Braf iawn oedd cael bod yn rhan o’r digwyddiad hwn, a chael y cyfle i ddod a’n myfyrwyr reit i ganol y gymuned yn y dref. Gyda chynnydd amlwg yn y maes therapi harddwch a llesiant, mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi'r math yma o gyfleoedd i’n myfyrwyr.”

Ychwanegodd

“Mi oedd hi’n hynod o braf gweld ein myfyrwyr yn sgwrsio’n naturiol gyda chwsmeriaid newydd, mewn ffordd oedd yn sicr o godi proffil ein hadran, a’r coleg. Mae cael y cyfle i ddangos eu sgiliau yn y byd go-iawn yn bwysig wrth i’r myfyrwyr symud ymlaen ar ôl bod yn y coleg i fyd gwaith a chyflogaeth”

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y linc isod.

www.gllm.ac.uk