Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tîm Achub Mynydd Aberdyfi yn ymweld â Choleg Meirion-Dwyfor Dolgellau

Ar ddydd Mawrth, Hydref 11, daeth Tîm Achub Mynydd Aberdyfi draw i’r coleg i ddangos i fyfyrwyr Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored am eu gwaith.

Mae Tîm Achub Mynydd Aberdyfi yn darparu gwasanaeth Chwilio ac Achub 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn mewn lleoliadau gwyllt ac anghysbell ledled De Eryri a Chanolbarth Cymru. Mae’r tîm yn cynnwys criw ymroddedig o wirfoddolwyr a ariennir yn gyfan gwbl gan roddion elusennol. Daw aelodau’r tîm o amrywiaeth eang o gefndiroedd, megis Artistiaid, Hyfforddwyr Mynydd, Peirianwyr a Gwyddonwyr i enwi ond ychydig. Mae pob un yn rhoi llawer iawn o'u hamser i hyfforddi a darparu gwasanaeth chwilio ac achub gwirfoddol ddydd neu nos, trwy gydol y flwyddyn.

Pwrpas yr ymweliad oedd dysgu ein myfyrwyr ar ein cyrsiau Awyr Agored am waith pwysig y Tîm Achub. Cafwyd cyflwyniad hynod o ddiddorol gan dri aelod o’r Tîm Achub, cyn i’r myfyrwyr symud ymlaen i ddefnyddio offer achub mynydd, a sut i achub bywyd mewn ffordd ddiogel mewn rhai o fannau mwyaf anghysbell y wlad.

Dywedodd Lara Abbott, myfyriwr gradd sylfaen ar ein cwrs Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored yn Nolgellau.

“I mi, mi oedd gwneud y penderfyniad i aros yn lleol, yma yn fy ardal enedigol i wneud fy ngradd yn un hawdd iawn. Mae popeth sydd ei angen arnom ar gwrs fel hwn yma ar stepen ein drws. Mae’r mynyddoedd, y llynnoedd ar gyfleoedd yn y maes awyr agored yn ddiddiwedd.”

Ychwanegodd Lara.

“Enghraifft berffaith o hyn ydi ymweliad blynyddol Tîm Achub Mynydd Aberdyfi a’r coleg. Mae’n ffordd hynod o effeithiol i ni fedru dysgu am eu gwaith, dod i ddeall yr heriau sy’n eu hwynebu wrth iddynt geisio cadw ein mynyddoedd yn ddiogel. I mi yn bersonol, mi wnes i fwynhau cael dysgu am eu gwaith a chael cyfle i ddefnyddio peth o’r cyfarpar. Dwi wirioneddol yn cysidro ymgeisio am le fel aelod o’r Tîm Achub yn ystod y blynyddoedd nesaf.”

Dywedodd Huw Evans o Dîm Achub Mynydd Aberdyfi.

“Mae'r tîm yn gwasanaethu ardal ddaearyddol eang o gefn gwlad anghysbell a gwyllt o fewn Parc Cenedlaethol Eryri a Chanolbarth Cymru y mae'n darparu gwasanaeth Chwilio ac Achub ar ei gyfer. O fewn yr ardal mae nifer o fynyddoedd mawr, gan gynnwys Cadair Idris, Aran Fawddwy a Phumlumon. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr yn gyson i ymuno a ni, felly mae cael dod i’r coleg fel hyn i ddysgu’r myfyrwyr am ein gwaith yn hynod o bwysig.”

Ychwanegodd Huw Evans

“Mae’r bartneriaeth rhwng y coleg a ninnau yn un pwysig iawn, ac yn un yr hoffem ei ddatblygu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae hi’n amlwg bod gan y myfyrwyr ar y cwrs Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored y sgiliau cychwynnol i fedru cael eu mentora i ddod yn aelodau o Dîm Achub Mynydd Aberdyfi.”

Os hoffet ti ddysgu mwy am ein cyrsiau Awyr Agored yn y Coleg, clicia YMA