Myfyrwyr Lefel A yn action mewn cynhyrchiad arloesol
Mae dwy o gyn-fyfyrwyr CMD wedi cael eu dewis fel actorion yn y ffilm a chynhyrchiad arloesol, GALWAD. Bydd Eve Harris o Bwllheli ac Elan Davis o Ddolgellau, sydd newydd orffen eu hastudiaethau lefel A yn y coleg, yn chware rhan ganolog yn y brosiect.
Stori yw GALWAD sy'n datblygu mewn amser go iawn o ddydd Llun 26 Medi tan ddydd Sul 2 Hydref. Cafodd ei ffrydio’n fyw ar sianeli digidol yn ystod yr wythnos, gan orffen gyda darllediad pedair awr ar Sky Arts ddydd Sul 2 Hydref yn fyw o Flaenau Ffestiniog, gyda drama deledu 60 munud i ddilyn wedi'i gosod yn 2052.
Wedi’i hysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), polisi rhyfeddol Cymru sy’n rhoi hawliau cenedlaethau’r dyfodol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, mae GALWAD yn stori sy’n dod â dyfodol posibl ar ruthr i’r presennol. Mae’n gwthio ffiniau ynglyn â sut mae straeon wedi cael eu hadrodd, gyda chymeriadau a straeon yn cysylltu ar draws drama deledu, perfformiadau byw, cyfryngau cymdeithasol a newyddion.
Dywedodd Natalie Coles-Williams, darlithydd Drama yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
“Mae gweld ein cyn fyfyrwyr yn cael y math yma o gyfle, wirioneddol yn wych, ac yn destament i’r math o addysg sydd ar gael yma yn y coleg. Mae prosiect GALWAD yn gyfle gwych i ni fedru dangos i’r byd yr holl dalent anhygoel sydd yma yn y gogledd orllewin.”
Ychwanegodd
“Mae’r prosiect hwn yn rhan o ŵyl ehangach UNBOXED, sydd yn ddathliad o greadigrwydd gyda digwyddiadau am ddim drwy gydol 2022 er mwyn datgloi talent yn ein cymunedau. Rydym yn falch iawn o lwyddiant Eve a c Elan.”
Os hoffet ti ddysgu mwy am gyrsiau lefel A sydd ar gael yn y coleg, beth am i ti ymweld a’n gwefan yma.