Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y berthynas rhwng Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Caerdydd a'r Fro yn mynd o nerth i nerth

Yr wythnos yma daeth rhai o fyfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro ar daith gyfnewid i Goleg Meirion-Dwyfor er mwyn dysgu mwy am y ddarpariaeth Cymraeg ar ein cyrsiau chwaraeon, a hynny dan nawdd cynllun grantiau bach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Amcan y Gronfa Grantiau Bach yw cefnogi mentrau arloesol a chreadigol, gan gynnwys prosiectau unigol, a fydd yn helaethu a/neu’n cyfoethogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.

Trefnwyd 3 diwrnod lawn o weithgareddau i fyfyrwyr y ddau goleg, oedd yn cynnwys cael aros ym Mhlas Menai, y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol, sydd yn ysbrydoli, datblygu a hyfforddi, trwy ragoriaeth weithredol a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog.

Yn ystod yr ymweliad tri diwrnod (Hydref 19 - 21) aeth y myfyrwyr am noson o hwyl i’r Hwylfan yng Nghaernarfon, cael prynhawn o weithgareddau ‘footgolf’ ym Mhwllheli a chael sesiwn hunan amddiffyn gan y meistr Pol Wong, o Ysgol Cwng Fw & Qi Gong Hafan Shaolin Cymru, sydd yn gartref i un o ddim ond tri mynach Shaolin ordeiniedig yn y DU. Mae Shi Yong Jie (Pol Wong) yn Fynach Shaolin 33ain Cenhedlaeth, ac yn cynnal sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Sara Davies, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Grŵp Llandrillo Menai.

“Mae cynllun grantiau bach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ffordd hynod o dda i ni gyd-weithio ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru, ac i ddysgu mwy am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael. Mae’r daith gyfnewid yma wedi bod yn llwyddiant ysgubol hyd yn hyn, ac mae myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn edrych ymlaen at ail hanner y daith, pan fydda’n nhw’n ymweld â’r brifddinas.”

Uchafbwynt yr wythnos oedd taith i fyny mynydd mwyaf Cymru, Yr Wyddfa, oedd yn gyfle gwych i’r myfyrwyr ddysgu mwy am y sector awyr agored yng Nghymru, ar cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y sector hwnnw.

Dywedodd Eifion Owen, Pennaeth Maes Rhaglen Busnes , TG , Lletygarwch , Chwaraeon , Gwallt a Harddwch ac Addysg Uwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

“Pleser oedd cael tywys myfyrwyr Caerdydd a’r Fro a Choleg Meirion-Dwyfor i fyny’r Wyddfa, ac i ddangos bod y Gymraeg yn sgil hanfodol mewn llawer o feysydd chwaraeon a gweithgareddau awyr agored. Rydym fel coleg yn ddiolchgar iawn o’r nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd wedi ein galluogi ni i ddod i adnabod ac i weithio’n agosach gyda’n partneriaid yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro”

Dywedodd Shellie Scott, Darlithydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

“Mae ein myfyrwyr wedi cael profiadau bythgofiadwy yma yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Diolch i bawb am y croeso cynnes, Cymraeg. I fyfyrwyr sydd ddim yn deall yn llawn, bod modd byw a gweithio mewn cymunedau yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, mae cael y math yma o brofiad yn bwysig iawn. Diolch i chi unwaith eto”