Mae digwyddiadau agored yn gyfle perffaith i ddysgu rhagor am yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon
Newyddion Coleg Llandrillo


Ddydd Iau yng Ngholeg Llandrillo bydd Neil Cottrill, cyn-chwaraewr badminton proffesiynol sydd â 30 mlynedd o brofiad hyfforddi, yn siarad am yr heriau a wynebir gan swyddogion gemau elît

Myfyriwr lletygarwch o Goleg Llandrillo yn serennu mewn cystadleuaeth gyda chacen lemwn wedi'i phobi gydag iogwrt y cwmni o Sir Ddinbych

Mae Aaron Forbes, sy'n gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo, yn helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr yn ei rôl fel dadansoddwr gyda Dinas Caerdydd

Mae gŵr ifanc 20 oed o Kyiv yn yr Wcráin wedi cymryd blwyddyn allan o addysg ar ôl cwblhau ei lefel A yng Ngholeg Llandrillo'r llynedd, ac ar hyn o bryd mae yn Llundain yn helpu ffoaduriaid o bob rhan o'r byd

Mae'r prentis o Grŵp Llandrillo Menai ac RWE wedi cael ei dewis i fod yn rhan o'r garfan Ynni Adnewyddadwy sy'n hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol yn Shanghai y flwyddyn nesaf

Yn yr ail mewn cyfres o seminarau yng Ngholeg Llandrillo ar chwaraeon elît, bydd Sam Downey a Steve Kehoe yn trafod effeithiau blinder meddyliol

Cynrychiolodd dros 250 o gystadleuwyr Grŵp Llandrillo Menai yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru - gyda'r Grŵp yn cynnal mwy o ddisgyblaethau ar ei gampysau nag erioed o'r blaen

Yn ddiweddar aeth staff o Grŵp Llandrillo Menai i ddigwyddiad cenedlaethol a drefnwyd ar y cyd gan gwmni technoleg Autodesk a WorldSkills UK i ddilyn nifer o ddosbarthiadau meistr technegol

Mae'r cyn-fyfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor wedi dechrau prentisiaethau gyda'r cyflenwr peiriannau amaethyddol, adeiladwaith a gofalu am y tir