Sut yr ysbrydolodd fy model rôl byddar fy siwrne addysgu
Cyn Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar (5-11 Mai), mae Bethan Ronan wedi dweud sut y rhoddodd y darlithydd o Goleg Llandrillo, David Duller, yr hyder iddi ddod yn diwtor iaith arwyddion
Mae’r athrawes iaith arwyddion, Bethan Ronan, wedi disgrifio sut y gwnaeth David Duller, darlithydd arall yng Ngholeg Llandrillo, ei hysbrydoli i ddilyn gyrfa ei breuddwydion.
Dywedodd Bethan fod David wedi rhoi’r hyder iddi gredu y gallai weithio ym myd addysg ar ôl iddyn nhw gyfarfod mewn clwb lleol i'r byddar.
Mae hi bellach yn gweithio ochr yn ochr â David yn addysgu Iaith Arwyddion Prydain, gan helpu dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau i gyfathrebu â phobl fyddar a thrwm eu clyw.
Wrth adrodd ei stori cyn Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar (5-11 Mai), dywedodd Bethan: “Dwi'n cofio bod yn 13 neu 14 oed, gyda'r freuddwyd o fod yn athrawes. Mathemateg oedd fy angerdd cynnar, gan fod rhifau ac ystadegau wedi fy nghyfareddu.
“Fodd bynnag, roedd fy athrawon ysgol yn fy rhybuddio'n aml y gallai addysgu fod yn ormod o straen ac yn swydd heriol, gan awgrymu na fyddwn i'n gallu ymdopi efo'r llwyth gwaith.
“Dechreuais eu credu. Roedd eu hamheuon yn atseinio yn fy meddwl, gan beri i mi amau a oeddwn i wir addas i fod yn yr ystafell ddosbarth.”
Dywedodd Bethan fod cefnogaeth gan ei modryb yn ogystal â gan David wedi ei helpu i ddangos bod yr amheuwyr yn anghywir a chyflawni ei breuddwyd.
Dywedodd: “Er gwaethaf y lleisiau anghefnogol hynny, roedd fy modryb bob amser yn ddylanwad cadarnhaol. Gwelodd rywbeth ynof fi nad oedd y lleill wedi'i weld - roedd hi'n credu y byddwn i'n gwneud athrawes Iaith Arwyddion Prydain gwych.
“Doeddwn i ddim wedi fy argyhoeddi'n llwyr, ond roeddwn i'n parhau i fod yn chwilfrydig. Roeddwn i'n mynd i glwb lleol i'r byddar yn rheolaidd. Dyma lle gwnes i gyfarfod fy model rôl y tro cyntaf: David Duller, darlithydd yng Ngholeg Llandrillo.
“Daeth David ataf un diwrnod a sgwrsio efo fi am fod yn athrawes, gan fy annog i ddilyn hyn fel gyrfa. Dwi'n cofio ei ffydd yn fy mhotensial hyd heddiw. Roedd yn teimlo'n syfrdanol ac yn gyffrous clywed bod rhywun a oedd yn gweithio ym myd addysg yn gweld addewid ynof fi. Fe wnaeth hyn roi'r hyder oedd ei angen arnaf i ddod yn athrawes.”
Dechreuodd Bethan astudio cwrs Iaith Arwyddion Prydain drwy ddarpariaeth dysgu yn y gymuned Grŵp Llandrillo Menai, cyn hyfforddi fel athrawes iaith arwyddion ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.
“Gyda chefnogaeth David, cofrestrais ar y cwrs Lefel 3 Iaith Arwyddion Prydain yng Nghanolfan Ddysgu'r Bae ac es ymlaen i gwrs Lefel 4,” ychwanegodd. “Yn ddiweddarach, es i Goleg Llandrillo i wneud fy nghwrs Hyfforddi Athrawon Iaith Arwyddion, lle'r oedd gwersi ac arweiniad David yn ysbrydoliaeth enfawr.
“Heddiw, dwi'n falch o ddweud fy mod i’n athrawes yng Ngholeg Llandrillo. Pryd bynnag y byddaf yn sefyll o flaen dosbarth, dwi'n cofio fy nhaith, anogaeth David a ffydd fy modryb ynof fi. Fe wnaeth eu cefnogaeth fy helpu i wireddu fy mreuddwyd, ac mae'n fy atgoffa, gyda'r ysbrydoliaeth gywir, y gallwch chi gyflawni'r hyn y gallai eraill feddwl sy'n amhosibl.”