Campysau'r Coleg yn cynnal Diwrnodau Hwyl i'r Gymuned
Mae'r digwyddiadau yn Y Rhyl, Bangor a Dolgellau ar agor i bawb. Bydd cystadlaethau a gweithgareddau hwyliog yn arddangos y cyfleoedd ysbrydoledig sydd ar gael trwy Grŵp Llandrillo Menai
Bydd Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn croesawu cannoedd o bobl i'w Diwrnodau Hwyl i'r Gymuned ym mis Mehefin.
Bydd yn ddiwrnod gwych i'r teulu cyfan ac fe gynhelir llu o weithdai a gweithgareddau cyffrous a fydd yn sicr yn cynnig rhywbeth at ddant pawb!
Bydd gweithgareddau 'rhoi cynnig arni', bythau tynnu lluniau, a chystadlaethau - gan gynnwys cyfle i ennill clustffonau Apple AirPods Max a thaleb ASOS gwerth £50! Bydd gweithdai gwyddoniaeth hwyliog fel gwneud llysnafedd a phrofiad planetariwm gydag Xplore a Sbarduno yno hefyd.
Bydd Diwrnodau Hwyl i'r Gymuned yn digwydd ar:
- Coleg Llandrillo - Campws Y Rhyl: Dydd Sadwrn 7 Mehefin, 11am – 3pm
- Coleg Menai - Campws Bangor: Dydd Sadwrn 7 Mehefin, 11am – 2pm
- Coleg Meirion-Dwyfor - Campws CaMDA Dolgellau: Dydd Sadwrn 14 Mehefin, 11am – 2pm
Bydd gweithgareddau hwyliog ym mhob digwyddiad fydd yn rhoi blas ar y cyrsiau cyffrous sydd ar gael ar gampysau’r Grŵp, yn ogystal â stondinau a gemau gan gwmnïau ac elusennau lleol, a digon o fwyd a diod fydd yn tynnu dŵr o ddannedd.
Mae'r digwyddiadau'n gyfle i gael golwg ar y cyfleusterau gwych, cwrdd â staff, gofyn cwestiynau a chael cyngor gyrfaoedd hefyd.
Mae’r digwyddiadau am ddim, yn agored i bawb, ac wedi’u hanelu at:
- Ddisgyblion ysgol a allai fod â diddordeb mewn mynd i'r coleg
- Rhieni sydd am ymweld â'r campysau i weld y cyfleusterau a siarad â'r staff
- Unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweld beth sydd gan y coleg a gwasanaethau lleol i'w gynnig
- Unrhyw un sy'n chwilio am waith neu'n meddwl am ddechrau gyrfa newydd
- Ac yn olaf... teuluoedd sydd am gael diwrnod llawn hwyl!