Perfformio i'r Eithaf: Hyfforddwr tîm pêl-droed dynion dan-18 Cymru, Craig Knight, yn croesawu newid
Yr arbenigwr datblygu chwaraewyr - yr hyfforddwr cyntaf i arwain tîm pêl-droed Cymru i rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop dan 17 - yw siaradwr gwadd nesaf seminar 'Perfformio i'r Eithaf'
Hyfforddwr tîm pêl-droed dynion dan-18 Cymru, Craig Knight, yw’r siaradwr gwadd nesaf yng nghyfres seminarau 'Perfformio i'r Eithaf' Coleg Llandrillo.
Mae Craig yn arbenigwr datblygu chwaraewyr, ac ef oedd yr hyfforddwr cyntaf i arwain tîm pêl-droed Cymru i rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop dan 17.
Ei sgwrs, 'Hyfforddi mewn Amgylchedd Elitaidd Cenedlaethol' (dydd Mawrth, 13 Mai am 6pm), fydd y bumed yng nghyfres 'Perfformio i'r Eithaf', sy'n rhoi llwyfan i siaradwyr gwadd sydd wedi gwneud eu marc mewn chwaraeon elît.
Mae'r digwyddiad ar agor i'r cyhoedd ac mae'n rhad ac am ddim - archebwch eich lle yma.
Lluniau: FAW
Bydd Craig yn taflu goleuni ar ei brofiad o weithio gyda thimau cenedlaethol, a bydd hefyd yn tynnu ar ei brofiad ei hun - o fynd i'r brifysgol fel myfyriwr aeddfed i greu gyrfa mewn hyfforddi elitaidd - gyda'r neges 'peidiwch byth â bod ofn croesawu newid'.
“Mi wnes i groesawu newid pan adawes i fy swydd i fynd i’r brifysgol,” meddai Craig. “Mi oeddwn i wedi cymryd seibiant o bêl-droed, ac yn gwneud swydd nad oeddwn i wir yn ei fwynhau.
“Felly, es i nôl i’r brifysgol yn eithaf hwyr, pan oeddwn i tua 30 oed - a dyna sut y dechreuais i hyfforddi pêl-droed eto.”
Dechreuodd Craig ei yrfa bêl-droed fel prentis gyda Wrecsam, cyn treulio cyfnod yng Ngogledd Iwerddon ac yna chwarae i glybiau lleol yng ngogledd Cymru.
Wrth iddo agosáu at ei ben-blwydd yn 30 oed, roedd Craig eisiau gweithio ym myd pêl-droed eto, a chofrestrodd ar gyfer gradd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Ar ôl cwblhau ei radd Meistr, cymerodd Craig gam arall ymlaen yn ei yrfa gan weithio fel hyfforddwr gyda thîm Kidderminster Harriers ac yna Wrecsam, cyn dod yn brif hyfforddwr tîm pêl-droed dan 18 Cymru, ac arweinydd llwybr dan 13-dan 17 Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae ei rôl bellach yn canolbwyntio ar adnabod talent o naw oed hyd at lefel broffesiynol, a datblygu chwaraewyr i'w bwydo i'r carfannau cenedlaethol, yn ogystal â hyfforddi'r tîm dan 18.
Yn 2023, arweiniodd Gymru i rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop dan 17 am y tro cyntaf ers sefydlu'r gystadleuaeth ym 1982, gan ailadrodd y llwyddiant hwnnw'r flwyddyn ganlynol.
Wrth edrych ymlaen at ei seminar, dywedodd Craig: “Byddaf yn siarad ychydig am sut beth ydy gwersyll hyfforddi rhyngwladol, ac yn rhannu cwpl o astudiaethau achos o’r hyn rydyn ni wedi’i wneud o fewn Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar lefel ddatblygiadol.
“Roedd rhaid i mi fod yn barod i wneud newidiadau’n bersonol ac yn broffesiynol, a dyna rywbeth y byddaf yn siarad amdano yn y seminar - na ddylech chi fod ofn croesawu newid.”
Sgwrs Craig fydd y bumed yng nghyfres 'Perfformio i'r Eithaf', a gynhelir gan faes rhaglen chwaraeon Coleg Llandrillo.
Sean Conway, athletwr sydd wedi torri recordiau byd mewn chwaraeon dygnwch, oedd siaradwr cyntaf y gyfres, gyda sgyrsiau eraill gan hyfforddwr perfformiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru a darlithydd Coleg Llandrillo, Sam Downey, pennaeth hyfforddi a datblygu dyfarnwyr, Neil Cottrill, a'r maethegydd perfformiad chwaraeon blaenllaw Felicity Devey wedi hynny.
Bydd y gyfres yn dod i ben ar ôl sgwrs Craig, gydag ymweliad gan chwaraewr pêl-fasged cadair olwyn Prydain Fawr, Alex Marshall-Wilson, ar 26 Fehefin.
Cynhelir seminar 'Perfformio i'r Eithaf - Hyfforddi mewn Amgylchedd Elitaidd Cenedlaethol' yn y Ganolfan Brifysgol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, ddydd Mawrth 13 Mai (6pm). I archebu eich lle, cliciwch yma.