Dethol Amy i chwarae i North West Fury yn y Gynghrair Bêl-rwyd Genedlaethol
Mae Rheolwr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Coleg Llandrillo yn dychwelyd i'r gêm ranbarthol am y tro cyntaf ers dod yn fam
Mae Amy Thomson o Goleg Llandrillo wedi cael ei dewis i gynrychioli Gogledd Orllewin Cymru yng Nghynghrair Genedlaethol Pêl-rwyd Cymru.
Mae Amy, Rheolwr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus y Coleg, yn chwarae yn safle ymosodwr gôl i Fae Colwyn, ac mae hefyd yn hyfforddi aelodau'r clwb.
Mae hi wedi cael ei dewis i fod yn aelod o dîm North West Fury - sy'n nodi ei dychweliad i'r gêm ranbarthol am y tro cyntaf ers dod yn fam.
Mae'r Gynghrair Genedlaethol yn cynnwys wyth tîm rhanbarthol o bob cwr o Gymru, sy'n chwarae yn erbyn ei gilydd mewn gemau dros dridiau ym Mangor (31 Mai), Abertawe (29 Mehefin) a Chaerdydd (2 Awst).
Twrnamaint undydd oedd y gystadleuaeth yn flaenorol, ond mae wedi'i ymestyn i fformat 'tymor cryno' yn ystod y blynyddoedd diwethaf - gan gynnig cyfle i chwaraewyr gystadlu ar y lefel ranbarthol yn fwy rheolaidd.
Roedd Amy'n chwarae'n rheolaidd yn y fformat blaenorol, ond cymrodd seibiant o bêl-rwyd ranbarthol ar ôl cael plant.
Aeth i dreialon ar gyfer y fformat newydd am y tro cyntaf y llynedd, gan gyrraedd carfan y Fury fel cynorthwyydd hyfforddi - felly mae cael ei dewis i'r gystadleuaeth eleni yn golygu y bydd hi'n cael chwarae yn y fformat ar ei newydd wedd am y tro cyntaf.
Dywedodd Amy: “Rwy’n edrych ymlaen. Roeddwn i'n arfer chwarae yn y fformat blaenorol, ond roedd hynny cyn i mi gael fy mhlant, felly wnes i ddim ei wneud am ychydig flynyddoedd oherwydd bod yr hyfforddiant bob yn ail benwythnos ac allwn i ddim ymrwymo i hynny ar y pryd.
“Ond nawr bod y plant ychydig yn hŷn, mae gen i fwy o amser i hyfforddi, felly fe wnes i roi fy enw ymlaen ar gyfer treialon am y tro cyntaf y llynedd.
“Ar ôl cael fy newis i'r sgwad y tro hwn, mae'n braf gwybod y gallaf gyfuno gyrfa werth chweil yng Ngholeg Llandrillo â bod yn fam, a dal i gystadlu ar yr un lefel ag o'r blaen.”
Dechreuodd Amy yng Ngholeg Llandrillo fel darlithydd chwaraeon rhan-amser yn 2012, cyn mynd ymlaen i addysgu'n llawn amser. Daeth yn gydlynydd y cwricwlwm chwaraeon yn 2016 ac yna'n rheolwr maes rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Hydref 2022.
Mae tîm North West Fury yn cynnal digwyddiad codi arian ar gyfer eu hymgyrch yn y Gynghrair Genedlaethol ddydd Sul, 11 Mai, yng Nghanolfan Brailsford ym Mangor.
Bydd y diwrnod yn cynnwys dwy gêm bêl-rwyd, Llandudno Thunder yn erbyn Walis Caernarfon dan 16 (11am-12pm), a North West Fury yn erbyn West Cheshire Warriors (12-2pm). Bydd stondin gacennau a thombola hefyd. Mynediad £2 (arian parod yn unig).
Ydych chi eisiau cael gyrfa yn y byd chwaraeon, ymarfer corff a ffitrwydd? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.