Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn helpu Prom Ally trwy weddnewid y fan

Rhoddodd dysgwyr yn adran cerbydau modur Coleg Llandrillo yn y Rhyl o'u hamser i sicrhau y gall y fenter gymdeithasol gyrraedd ysgolion a cholegau

Mae dysgwyr o gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl wedi helpu'r fenter gymdeithasol leol Prom Ally drwy atgyweirio fan y cwmni a'i phaentio'n binc llachar.

Mae Prom Ally yn cynnig benthyg ffrogiau a siwtiau prom am ddim i bobl ifanc sydd dan anfantais a'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol.

Cynigiodd dysgwyr a staff o gampws y Rhyl atgyweirio a phaentio'r fan, fel y gall y sylfaenydd Ally Elouise deithio i ysgolion a cholegau i gyrraedd at fyfyrwyr ac arddangos ei siwtiau a'i ffrogiau.

Roedd y gweddnewidiad yn cynnwys myfyrwyr o wahanol gyrsiau gan gynnwys Peintio Cerbydau Modur Lefel 2 a 3, Peintio Lefel 2 yn y Gwaith, Atgyweirio Corff Cerbydau Modur Lefel 2 ac Atgyweirio Corff Lefel 2 yn y Gwaith. Fe wnaethon nhw gwblhau'r gwaith atgyweirio a'r gwaith atgyweirio corff cyn peintio'r fan.

Yn sicrhau bod y gwaith wedi'i gwblhau i'r safonau uchaf o broffesiynoldeb roedd Gavin Roberts, Ben King a Bryn Smith, staff yr Adran Atgyweirio Corff Cerbydau ac Ail-orffennu'r coleg, a'r rheolwr peirianneg Tim Peel.

Bydd y fan yn hawdd i'w hadnabod rŵan - boed yn gyrru o gwmpas neu wedi'i pharcio y tu allan i siop newydd Prom Ally ar Ffordd Llandudno yn Llandrillo-yn-Rhos.

Dywedodd y goruchwyliwr sgiliau ymarferol, Ben King: “Mae wedi bod yn wych gweld ein myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect fel hwn. Mae wedi rhoi cyfle amhrisiadwy iddyn nhw gymhwyso eu sgiliau mewn sefyllfa go iawn.

“Nid yn unig y maen nhw wedi ennill profiad ymarferol gwerthfawr mewn atgyweirio a pheintio cerbydau, ond maen nhw hefyd wedi cael y cyfle i gyfrannu at achos gwych. Mae cefnogi elusennau a mentrau cymdeithasol lleol drwy brosiectau fel hyn yn helpu i feithrin cysylltiadau cymunedol cryf ac yn rhoi ymdeimlad o falchder yn eu gwaith i’n dysgwyr.”

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y fenter gymdeithasol yn www.promally.co.uk neu ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Ydych chi eisiau gweithio ym maes technoleg cerbydau modur? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys prentisiaethau. Dysgwch ragor yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date