Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Darlithydd hanes yn cyffwrdd â hud a lledrith gyda'i sgwrs 'Gwrachod Gogledd Cymru'

Mae darlith boblogaidd Morgan Ditchburn eisoes wedi gwerthu allan bedair gwaith - tra'i bod hi a'i chyd-ddarlithydd yng Ngholeg Llandrillo, Gemma Campbell, wedi sefydlu cangen gyntaf Cymdeithas Hanesyddol Gogledd Cymru i wneud astudio'r gorffennol yn fwy hygyrch i bawb

Mae Morgan Ditchburn, darlithydd hanes yng Ngholeg Llandrillo, yn taflu goleuni ar gornel dywyll o'r gorffennol gyda'i sgwrs hynod lwyddiannus, 'Gwrachod Gogledd Cymru'.

Morgan, a’i chydweithiwr Gemma Campbell, sefydlodd gangen Bwrdeistref Conwy o’r Gymdeithas Hanes - y cyntaf o'i bath yng Ngogledd Cymru.

Mae'r gangen yn cynnal cyfres o sgyrsiau a digwyddiadau diddorol drwy gydol y flwyddyn, gyda phynciau sydd ar ddod yn cynnwys Cestyll Edwardaidd Gogledd Cymru, yr Archesgob John Williams, a thaith gerdded dywys o amgylch Castell Conwy.

Un o'r digwyddiadau mwyaf poblogaidd hyd yn hyn fu sgwrs Morgan ar hanes gwrachod a threialon gwrachod yn y rhanbarth. Cynhaliwyd y sgwrs yn y coleg ym mis Chwefror, a gwerthwyd pob tocyn.

Ers hynny mae darlith Morgan wedi llenwi dau leoliad yn Ninbych drwy ei busnes ei hun, Conwy History, ac mae dau ddyddiad arall ar y gweill, yn Neganwy ar Fai 15, a Rhuthun ar Hydref 24.

Gwerthodd y tocynnau ar gyfer sgwrs bellach yng Nghonwy ar Hydref 17 allan o fewn 15 awr i fynd ar werth.

Mae 'Gwrachod Gogledd Cymru / The Witches of North Wales' wedi bod mor boblogaidd nes bod Morgan bellach yn ysgrifennu llyfr ar y pwnc - sydd, yn ei barn hi, ag apêl ehangach na phobl sydd wedi gwirion ar hanes yn unig.

“Pobl sydd â diddordeb mewn hanes sy'n dueddol o ddod i'r rhan fwyaf o fy sgyrsiau, ond mae hon yn denu pobl sydd ag amrywiaeth eang o ddiddordebau fel dewiniaeth a llên gwerin. Felly rydych chi'n targedu gwahanol fathau o bobl - cymaint felly nes fy mod i rŵan yn ysgrifennu llyfr amdano.

“Yn y sgwrs dw i'n sôn am y cyfnod o'r Oesoedd Canol hyd at y 19eg ganrif. Mae'r rhan gyntaf yn ymwneud â'r helfeydd gwrachod o amgylch Ewrop a Phrydain ar ddiwedd yr 16eg ganrif a dechrau'r 17eg ganrif, yna mae'r ail ran yn sôn am yr hyn a ddigwyddodd yng Ngogledd Cymru, a pham mae hynny'n ddiddorol.”

Mae Morgan yn addysgu Hanes Safon Uwch ar gampysau Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl, tra bod Gemma yn addysgu Saesneg Safon Uwch a TAR.

Fe wnaethon nhw sefydlu Cangen Cymdeithas Hanesyddol Bwrdeistref Conwy, gyda Gemma yn drysorydd a Morgan yn ysgrifennydd, er mwyn gwneud hanes ac ymchwil hanesyddol yn fwy hygyrch i bawb.

“Dyna fu’r peth mawr i mi erioed,” meddai Morgan. “Dw i’n meddwl y dylai unrhyw un allu dod draw a’i fwynhau, darganfod mwy a mwynhau ymchwilio iddo fo, oherwydd yn y gorffennol dydi hanes ddim wedi bod yn hygyrch nac wedi’i annog i bawb.”

Mae'r pynciau'n aml yn cynnwys agweddau ar hanes sydd wedi cael eu hanwybyddu o'r blaen ac sydd wedi'u datgelu gan aelodau'r gangen, gan gynnwys arddangosfa ddiweddar Gemma ar Ethel Hovey - arloesol ond anhysbys.

Ethel oedd cynghorydd, Maer ac Ynad Heddwch benywaidd cyntaf Bae Colwyn. Ymladdodd hefyd dros hawliau mamolaeth, helpodd i sefydlu maes chwarae cyntaf y dref, a hyrwyddodd gyfleoedd i fenywod mewn addysg, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth ar adeg pan doedd gan ferched ddim hawl i bleidleisio hyd yn oed.

“Er gwaethaf hyn, mae hi’n rhywun sydd wedi cael ei hanghofio,” meddai Morgan. “Mae’n braf tynnu sylw at bethau bach nad ydy pobl yn meddwl amdanyn nhw fel arfer.”

Dyfarnodd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol Gymrodoriaeth i Morgan y llynedd i gydnabod ei chyfraniad i faes hanes.

Mae hi hefyd wedi cael ei derbyn ar raglen gymrodoriaeth athrawon y Gymdeithas Hanesyddol, sy'n cynnwys ymchwilio i 'Gynnydd Brenhinol' (teithiau o amgylch y deyrnas) Harri VIII er mwyn datblygu adnoddau addysgol.

Morgan ydy trysorydd Grŵp Hanes Deganwy, ac mae’n cynnig teithiau a gweithdai addysg fel rhan o Hanes Conwy – sy'n ategu ei gwaith fel athrawes lefel A Hanes.

Dywedodd: “Yn y coleg mae gennym ni lwythi o arbenigwyr yn addysgu cyrsiau Lefel A. Dw i'n addysgu Lefel A, ond dw i hefyd yn hanesydd, felly mae gen i'r profiad o weithio yn y maes go iawn, yn ogystal â'r ochr academaidd.

“Mae’r cwrs hanes rydyn ni’n ei wneud yma yn amrywiol - rydyn ni’n ymdrin â rhai pynciau y bydd myfyrwyr wedi’u trafod yn eu TGAU, fel yr Almaen Natsïaidd a’r Tuduriaid, ond mae’n edrych arno mewn llawer mwy o fanylder ac mewn ffordd fwy cynnil.

“Rydym ni hefyd yn dysgu am yr Unol Daleithiau a’r Rhyfel Oer - mae llawer o’r hyn rydyn ni'n ei wneud yn yr uned honno’n berthnasol iawn i’r hyn sy’n digwydd yn y byd ar hyn o bryd.”

Mae cwrs Hanes Lefel A Grŵp Llandrillo Menai yn datblygu eich dealltwriaeth o hanes Prydain ac Ewrop, gan roi'r sgiliau beirniadol i chi archwilio'r gorffennol. Dysgwch ragor yma.

Am ragor o wybodaeth am sgyrsiau sydd ar ddod, dilynwch y dolenni i Cangen Cymdeithas Hanesyddol Bwrdeistref Conwy, Grŵp Hanes Deganwy a Hanes Conwy.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date