Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyflwyno cyfleodd ym maes twristiaeth i dros 1,000 o ddisgyblion

Mae'r Cynllun Talent Twristiaeth wedi rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ledled Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn i ehangu eu gorwelion gyda chyfres o ymweliadau ysgol ysbrydoledig a phrofiadau trochi llawn cyffro

Mae dros 1,000 o blant wedi cael profiad o'r cyfleoedd gyrfa cyffrous ym maes twristiaeth a lletygarwch diolch i Gynllun Talent Twristiaeth Grŵp Llandrillo Menai.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r prosiect wedi helpu myfyrwyr ysgol ledled Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn i ddysgu rhagor am y cyfleoedd unigryw sydd gan y sector i'w gynnig yng ngogledd Cymru.

Mae cogyddion profiadol a pherchnogion busnesau wedi ymweld ag ysgolion i roi sgyrsiau, arddangosiadau, gweithdai a sesiynau blasu, ac mae plant wedi elwa o ddiwrnodau profiad gwaith mewn atyniadau fel Zip World, Portmeirion, a Gwesty'r Royal Oak a Gwesty a Llety Waterloo, y ddau ym Metws y Coed.

Yn ogystal â hyn gwahoddwyd disgyblion ysgol i noson 'Cwrdd â'r Cogydd' gyda Bryn Williams, cogydd enwog ac enillydd Great British Menu.

Mae'r prosiect wedi addysgu ac ysbrydoli plant ym mhob cwrdd o'r ardal - yn ogystal â'u cysylltu â busnesau, arbenigwyr diwydiant a llwybrau gyrfa posibl - dyma rai o uchafbwyntiau pob sir:

CONWY

Dechreuodd chwedeg o fyfyrwyr o Ysgol Emrys ap Iwan, Ysgol Aberconwy, Ysgol Eirias ac Ysgol y Creuddyn y flwyddyn gyda thrip llawn cyffro a gyda chipolwg y tu ôl i'r llen yn Zip World, Betws-y-Coed.

Cafodd y myfyrwyr flas ar y gwaith cymorth i gwsmeriaid yn y Tipi Bar, cyn profi cyffro Fforest Coaster Zip World. Fe wnaethon nhw hefyd gymryd rhan mewn gweithdy 'Adeiladu Eich Safle Eich Hun', gan ddysgu am y gwaith gweithrediadau blaen tŷ, a threfniadau manwl bwyd, diod, llety a thrafnidiaeth.

Ym mis Rhagfyr, cynigiodd y cogydd enwog, Bryn Williams, brofiad 'Cwrdd â'r Cogydd' i fyfyrwyr o bob cwr o'r pedair sir yn ei fwyty Porth Eirias ym Mae Colwyn.

Roedd y plant ddaeth i'r noson honno wedi cael gwahoddiad ar ôl dangos ymroddiad ac addewid yn eu hastudiaethau coginio. Mwynhaodd y disgyblion bryd bwyd tri chwrs blasus a sesiwn holi ac ateb ysbrydoledig gyda Bryn lle rhannodd ei daith o astudio yng Ngholeg Llandrillo i ddod yn gogydd byd-enwog.

Ym mis Tachwedd daeth 170 o fyfyrwyr ysgolion uwchradd Sir Conwy ynghyd yn Ysgol John Bright ar gyfer digwyddiad gyrfaoedd. Dechreuodd gydag expo gyrfaoedd yn cynnwys Go Below Underground Adventures, Seibiant Coffi, Wave Garden Spa, Amgueddfa Llandudno, Pier Llandudno ac RSPB Conwy, ac roedd Benjamin Lee Artisan Bakery yno gyda phasteiod brecwast blasus ar gyfer y dysgwyr.

Roedd arddangosiad coginio byw gan y Prif Gogydd Gweithredol Signatures, Jimmy Williams, enillydd dwbl Gwobr y Bwyty Gorau yng Nghymru, yn ogystal â sgwrs gan Archifau Conwy ar hanes cyfoethog twristiaeth yn y rhanbarth, a hyd yn oed sioe hud lle siaradodd Chris Williams o Magic Bar Live am gyfuno lletygarwch ag adloniant.

Cynhaliwyd cystadleuaeth coginio yn erbyn y cloc hefyd yn ystod The School Food Showdown: Her y Bwytai Dyma un o sawl ymweliad gan y sioe deithiol bwyta'n iach ag ysgolion Gogledd Cymru fel rhan o'r prosiect Cynllun Talent Twristiaeth.

SIR DDINBYCH

Cafodd myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Dinas Brân gyfle i fod yn westeiwyr am y diwrnod mewn digwyddiad profiad gwaith lletygarwch yng Ngwesty'r Royal Oak ym Metws y Coed.

Ar ôl sesiwn holi ac ateb diddorol gyda Cath Gabriel, y rheolwr gweithrediadau bwyd a diod, cafodd y myfyrwyr gipolwg ar y grefft o gynnig gwasanaeth rhagorol i westeion. Tywyswyd y myfyrwyr ar daith y tu ôl i'r llenni o'r gwesty nodedig, a dangoswyd maint y gwaith manwl sy'n sicrhau bod pob gwestai yn derbyn gwasanaeth eithriadol.

Yna fe wnaethon nhw gymryd rhan mewn sesiwn gysgodi, cyfle i'r myfyrwyr weld mewn ffordd ymarferol pob elfen o'r gweithrediadau dyddiol gan gynnwys cymryd archebion, gweini diodydd a gosod byrddau bwyta manwl.

Mae'r Cynllun Talent Twristiaeth hefyd wedi ymweld ag Ysgol Uwchradd y Rhyl, i gynnig blas unigryw o'r diwydiant lletygarwch i dros 400 o blant o ysgolion yn y Rhyl a Llanelwy.

Yn ogystal â chymryd rhan yn y School Food Showdown, gwyliodd y myfyrwyr arddangosiad flambé a moctels gan fyfyrwraig Coleg Llandrillo, Rhian James, ac mi baratowyd risotto cyflym mewn llai nag awr gan y myfyrwyr dan arweiniad y cogydd a'r darlithydd lletygarwch Glenydd Hughes.

Rhannwyd llyfrynnau gweithgareddau, byrbrydau iach, cynhwysion ac offer coginio â nhw hefyd.

Trefnwyd sgwrs ac arddangosiad ysbrydoledig hefyd gyda chogydd Signatures, Jimmy Williams ar gyfer y myfyrwyr, a dywedodd Jimmy: "Gallwch chi gyflawni unrhyw beth os ydych chi'n newid un peth - eich meddylfryd. Mae'n rhaid i chi roi'r amser a'r ymdrech a chael yr angerdd hwnnw."

GWYNEDD

Daeth dros 250 o fyfyrwyr o bob cwr o Wynedd i gymryd rhan mewn gweithdai bywiog yn Ysgol Eirionnydd, Ysgol Bro Idris ac Ysgol Friars.

Un o uchafbwyntiau’r digwyddiad oedd Her y Bwytai, a gynhaliwyd dan arweiniad Chef Ben o'r Fun Food Company. Rhannwyd y myfyrwyr yn dimau bach, a chafodd pob tîm y dasg o greu cysyniad ar gyfer bwyty newydd ar sail cynhwysyn cyfrinachol a ddarparwyd gan Chef Ben.

Ar ôl i'r myfyrwyr gyflwyno eu syniadau i feirniaid gwirfoddol, dewiswyd pedwar tîm i greu seigiau mewn cystadleuaeth goginio gyffrous, gan ennill profiad amhrisiadwy o weithio mewn tîm, a datblygu sgiliau creadigrwydd a choginio.

Roedd y gweithdai’n cynnwys arddangosiadau cogydd yn dangos manteision defnyddio cynhwysion lleol, gan sylfaenydd Sheeps and Leeks, Paul Hearn, a Luke ac Antonella o fwyty Foxglove yn y Bermo.

Cafwyd sgyrsiau hefyd gan berchnogion busnesau fel Coffi Dre, Gwyndy Tearooms a The Event Lounge, yn ogystal â Dylan Hughes, Rheolwr Cyffredinol yn The Warren Resort and Spa yn Abersoch.

Ym mis Tachwedd dysgodd myfyrwyr blwyddyn 10 o Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Dyffryn Nantlle am yr ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael yn y sector yn ystod diwrnod unigryw ym Mhortmeirion.

Cafodd y myfyrwyr daith lawn a chyflwyniad i hanes tiroedd hardd a golygfeydd eang Portmeirion, cyn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau ymarferol, rhyngweithiol gan gynnwys gweithdy gwneud moctel, treialon cadw tŷ a dysgu sut i reoli bwytai.

Yn ystod y cyfnod hwn, dangosodd myfyrwyr blwyddyn 10 o Ysgol Dyffryn Ogwen, Ysgol y Moelwyn ac Ysgol Godre'r Berwyn eu sgiliau gyda'r cyfryngau mewn diwrnod profiad gwaith yn The Waterloo Hotel & Lodge ym Metws-y-Coed.

Cafodd y myfyrwyr dasg gan yr arbenigwr marchnata digidol Lucy Rawes o greu ymgyrchoedd i ddenu perchnogion cŵn i aros yn y gwesty, cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu a gweithio gyda'r cyfryngau cymdeithasol.

YNYS MÔN

Treuliodd myfyrwyr o Ysgol Syr Thomas Jones ac Ysgol Bodedern ddiwrnod llawn antur ar safle Chwarel Penrhyn Zip World ym mis Chwefror.

Dechreuodd y myfyrwyr gyda gweithgaredd 'Diwrnod ym Mywyd' - meddyliwch am wisgo dillad pwrpasol, cofrestru, ac yna reid gyffrous ar linell sip y Quarry Flyer. Yna yn ystod y gweithdy 'Datgloi Talent', aeth y myfyrwyr benben â'i gilydd i greu eu gweithgaredd antur coedwig unigryw eu hunain.

Cynlluniwyd y gweithgareddau hyn i ddangos pa mor ddeinamig ac amrywiol y gall gyrfa mewn twristiaeth antur fod, gan atgyfnerthu sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd a gwaith.

Dysgodd myfyrwyr Ynys Môn hefyd am gynnydd rhyfeddol Halen Môr Ynys Môn yn ystod diwrnod llawn gweithgareddau yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.

Rhannodd llysgennad y cwmni, Kim Jones, daith y cwmni o ddechrau gyda sosban o ddŵr y môr i fod yn ffefryn gan gogyddion ac unigolion sy'n caru bwyd ledled y byd - gan ddangos y potensial ar gyfer arloesedd a rhagoriaeth yn y diwydiant.

Daeth dros 150 o ddisgyblion blwyddyn 8 Ysgol David Hughes, Ysgol Syr Thomas Jones, Ysgol Uwchradd Caergybi, ac Ysgol Gyfun Llangefni i'r digwyddiad.

Yn ystod y digwyddiad trefnwyd arddangosiad cogydd bywiog gan y brodyr Barrie o Fwyty Y Marram, sgwrs ysgogol gan yr entrepreneur cynaliadwyedd Becky Bevan, sylfaenydd Café Notos yn Rhosneigr, gweithdy gwneud wafflau gyda Dessert Shack, ac wrth gwrs School Food Showdown .

Roedd ffair yrfaoedd yno hefyd yn cynnig cyfle i ddisgyblion gysylltu â busnesau lleol gan gynnwys Caffi Pilot House, Anturiaethau Ynys Môn, Parc Fferm y Foel, Halen Môn a Chaffi Notos.

Nod y Cynllun Talent Twristiaeth oedd codi proffil gyrfaoedd ym maes twristiaeth a lletygarwch, cryfhau'r cysylltiad rhwng addysg a diwydiant, ac arddangos i'r genhedlaeth nesaf y sgiliau, y profiadau, a'r potensial gyrfa cyffrous sydd gan y sector i'w cynnig.

Roedd y prosiect yn rhan o'r Rhwydwaith Talent Twristiaeth, cynllun cydweithredol rhwng Grŵp Llandrillo Menai, Ambition North Wales a phartneriaid twristiaeth mawr gan gynnwys Portmeirion, Zip World, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd. Bydd y Cynllun Talent Twristiaeth yn chwyldroi sut mae sgiliau twristiaeth a lletygarwch yn cael eu cyflwyno yn y rhanbarth, gan osod gogledd Cymru yn arweinydd ym maes twristiaeth gynaliadwy ac arloesi o fewn lletygarwch.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date